Ynysoedd Allanol Heledd

Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-gorllewinol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Siar, Saesneg: Outer Hebrides). Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd. Yr enw ar yr etholaeth seneddol (y DU) yw Na h-Eileanan an Iar.

Ynysoedd Allanol Heledd
Mathynysfor, un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area Edit this on Wikidata
PrifddinasSteòrnabhagh Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,720 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd3,058.7026 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.76°N 7.02°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS12000013 Edit this on Wikidata
GB-ELS Edit this on Wikidata
Map

Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.

Ynysoedd Heledd; Ynysoedd Allanol Heledd mewn oren

Tarddiad yr enw golygu

Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd.[1] Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.

Ynysoedd a'u poblogaeth golygu

Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:

YnysPoblogaeth (2001)
Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris)19,918
De Uist1,818
Gogledd Uist1,271
Benbecula1,219
Barraigh1,078
Sgalpaigh na Hearadh322
Bernera Fawr233
Griomasaigh201
Beàrnaraigh136
Eirisgeidh133
Bhatarsaigh94
Baile Sear49
Grimsay, De-ddwyrain Benbecula19
Flodaigh11
CYFANSWM (2001)26,502

Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. [Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol ll; tudalen 1843.]

Llyfryddiaeth golygu

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato