Non Evans

chwaraewr rygbi'r undeb o Gymraes

Athletwraig a chwaraewraig o Gymraes yw Non Evans MBE (ganwyd 20 Mehefin 1974) [1][2] sydd wedi cystadlu'n rhyngwladol mewn pedair camp gwahanol - rygbi undeb, jiwdo, codi pwysau a reslo rhydd.[3]

Non Evans
Dyddiad geni (1974-06-20) 20 Mehefin 1974 (49 oed)
Man geniAbertawe
Taldra1.6 m (5 ft 3 in)
Pwysau58 kg (9 st 2 lb)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
SafleCanolwr, Asgellwr, Cefnwr
Timau cenedlaethol
Blynydd.ClybiauCapiau
1996-2010Baner Cymru87(489)

Gyrfa chwaraeon golygu

Rygbi golygu

Nicole Beck yn cymeryd ergyd oddi wrth Non Evans, wrth iddi sgorio cais i'r Aussies yn erbyn Cymru yn 2010.

Chwaraeodd Evans am y tro cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban ym 1996 a chwaraeodd 84 gwaith ar gyfer ei gwlad hyd at ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd 2010 (87 cap yn dilyn Cwpan y Byd). Hi yw'r sgoriwr pwyntiau uchaf yng Nghymru a'r byd.

Cyhoeddodd ei bod wedi ymddeol o Rygbi Rhyngwladol ym mis Rhagfyr 2010. Sgoriodd 64 o geisiadau rhyngwladol i Gymru, sef record byd ar gyfer rygbi Dynion a Merched.

Jiwdo golygu

Enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Jiwdo'r Gymanwlad yn 1992 a 1996 a chystadlodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 .

Codi Pwysau golygu

Gorffennodd Evans yn 9fed o dan 63 kg yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 lle daeth y ferch gyntaf i gystadlu mewn dau gamp yn yr un Gemau.

Reslo golygu

Yn 2010, fe'i rhoddwyd yn 2il yn y dosbarth dan-59 kg ym Mhencampwriaethau Prydain ac fe'i dewiswyd i ymuno â thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn 2010. Hi oedd y ferch gyntaf i gystadlu mewn tair camp yng Ngemau'r Gymanwlad.[4] Yn 2012, roedd Evans yn sylwebydd ar y BBC yng nghystadlaethau codi pwysau a reslo Gemau Olympaidd Llundain.

Gladiators (1997) golygu

Yn 1997 cystadlodd Evans yn chweched cyfres y rhaglen deledu Gladiators ond cafodd ei gorchfygu cyn y rownd gogynderfynol oherwydd penderfyniad gan y dyfarnwr John Anderson [5]

Bywyd personol golygu

Yn 2019 dywedodd ei bod wedi dioddef o iselder ar ôl ymddeol o fyd chwaraeon, heb unrhyw byd i anelu eto. Symudodd o Gaerdydd nôl i'w chynefin a chychwyn fel hyfforddwr ffitrwydd personol.[6]Yng Ngorffennaf 2020 ysgrifennodd neges ar Twitter yn dweud ei bod yn hoyw a'i bod wedi aros 30 mlynedd cyn medru dweud hynny.[7]

Anrhydeddau golygu

Penodwyd Evans yn Aelod o Orchymyn Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2011 am wasanaethau i chwaraeon, a dyma'r chwaraewr rygbi benywaidd cyntaf erioed i dderbyn y wobr.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. [1][dolen marw]
  2. Western Mail 29 Mehefin 2014 Mae Non Evans yn lân - 40 ac yn falch ohoni! [2]
  3. "BBC Sport - Wrestling - Non Evans wants Commonwealth Games wrestling spot". news.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-21.
  4. Lloyd, Matt (2010-07-17). "Non Evans makes Commonwealth Games history". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-21.
  5. "Non Evans". IMDb. Cyrchwyd 2017-08-21.
  6. The emptiness felt by this remarkable Welsh sportswoman after a life in the spotlight stopped , WalesOnline, 18 Mai 2019. Cyrchwyd ar 14 Gorffennaf 2020.
  7. @NonEvans (14 Gorffennaf 2020). "Please don't judge me I am Gay. Sorry taken me 30 years to say that x" (Trydariad). Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2020 – drwy Twitter.
  8. London Gazette: (Supplement) no. 59808. p. 16. 11 Mehefin 2011.

Dolenni allanol golygu