Gemau'r Gymanwlad 2002

Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].

Gemau'r Gymanwlad 2002
Enghraifft o'r canlynoledition of the Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Dyddiad2002 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Gorffennaf 2002 Edit this on Wikidata
Daeth i ben4 Awst 2002 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadManceinion Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 2002 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Manceinion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
17eg Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol25 Gorffennaf
Seremoni cau4 Awst
Agorwyd yn swyddogol ganElizabeth II
XVI XVIII  >

Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.

Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.

Uchafbwyntiau'r Gemau

golygu

Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nawrw yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.

Casglodd Sant Kitts-Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan enillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Caiman a Sant Lwsia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Caiman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i Sant Lwsia.

Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]

Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]

Chwaraeon

golygu

Timau yn cystadlu

golygu

Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002

Tabl Medalau

golygu
 Safle CenedlAurArianEfyddCyfanswm
1 Awstralia826263207
2 Lloegr545260166
3 Canada314146118
4 India India30221769
5 Seland Newydd11132145
6 De Affrica9201746
7 Camerŵn91212
8 Maleisia761834
9 Cymru6131231
10 Yr Alban681630
11 Nigeria531220
12 Cenia48416
13 Jamaica46717
14 Singapôr42713
15 Bahamas4048
16 Nawrw25815
17 Gogledd Iwerddon2215
18 Cyprus2114
19 Pacistan1348
20 Ffiji1113
20 Sambia1113
22 Simbabwe1102
23 Namibia1045
24 Tansanïa1012
25 Bangladesh1001
25 Gaiana1001
25 Mosambic1001
25  Sant Kitts-Nevis1001
29 Botswana0213
30 Wganda0202
31 Samoa0123
32 Trinidad a Tobago0101
33 Barbados0011
33Ynysoedd Caiman0011
33 Ghana0011
33 Lesotho0011
33 Malta0011
33 Mawrisiws0011
33 Sant Lwsia0011
Cyfanswm282280336898

Medalau'r Cymry

golygu

Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.

MedalEnwCystadleuaeth
AurNicole CookeBeicioRas lôn
AurJamie ArthurBocsio60 kg
AurDavid MorganCodi Pwysau77 kg (Cyfuniad)
AurDavid MorganCodi Pwysau77 kg (Pont a hwb)
AurMichaela BreezeCodi Pwysau56 kg (Cipiad)
AurCeri Dallimore
a Johanne Brekke
SaethuParau Reiffl 50m Tra'n Gorwedd
ArianColin JacksonAthletau110m dros y clwydi
ArianMatt EliasAthletau400m dros y clwydi
ArianHayley TullettAthletau1500m
ArianIwan Thomas
Jamie Baulch
Tim Benjamin
a Matt Elias
Athletau4x400m
ArianHuw PritchardBeicioRas scratch 20 km
ArianJohn Gronow
Derek Dowling
a Kevin George Woolmore
Bowlio LawntTriawd gydag anabledd corfforol
ArianDavid MorganCodi Pwysau77 kg (Cipiad)
ArianMichaela BreezeCodi Pwysau56 kg (Cyfuniad)
ArianMichaela BreezeCodi Pwysau56 kg (Pont a hwb)
ArianJo MelenJiwdoo dan 78 kg
ArianAngharad SweetJiwdodros 78 kg
ArianRyan Jenkins
ac Adam Robertson
Tenis BwrddDyblau'r dynion
ArianLeanda CaveTriathlonMerched
EfyddRichard VaughanBadmintonSenglau'r dynion
EfyddKevin EvansBocsiodros 91 kg
EfyddAnwen Butten
ac Joanna Weale
Bowlio LawntParau
EfyddRobert WealeBowlio LawntSenglau
EfyddJason Greenslade
David Wilkins
Richard Bowen
ac Ian Slade
Bowlio LawntPedwarawd dynion
EfyddAnn Sutherland
Gillian Dawn Miles
Nina Shipperlee
ac Pam John
Bowlio LawntPedwarawd merched
EfyddGary ColeJiwdoo dan 60 kg
EfyddClaire ScourfieldJiwdoo dan 63 kg
EfyddTimothy DaviesJiwdoo dan 66 kg
EfyddLuke PrestonJiwdoo dan 81 kg
EfyddDavid RobertsNofio100m Dull rhydd i'r anabl
EfyddJames Birkett-Evans
a Michael Wixey
SaethuParau trap

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2013-09-28.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
  4. http://news.bbc.co.uk/sportacademy/hi/sa/special_events/cycling/newsid_3909000/3909169.stm
  5. http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen marw]
  6. http://news.bbc.co.uk/sport3/commonwealthgames2002/hi/swimming/newsid_2166000/2166261.stm
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-28.

Dolenni allanol

golygu
Rhagflaenydd:
Kualar Lumpur
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Melbourne