Cysawd yr Haul

Mae Cysawd yr haul(hefyd Cyfundrefn yr haul) yn cynnwys yr haul a'r gwrthrychau cosmig sydd wedi eu clymu iddo gan ddisgyrchiant: wyth planed, eu 162 o loerennau, tair planed gorrach a'u pedair lloeren, a miloedd o gyrff bach, gan gynnwys asteroidau, sêr gwib, comedau, a llwch rhyngblanedol.

Cysawd yr Haul

Mewn termau eang, mae Cysawd yr Haul yn cynnwys yr Haul, pedwar corff creigiog a elwir y planedau mewnol, gwregys mewnol o asteroidau, pedair planed enfawr allanol (a elwir cewri nwy), ail wregys o gyrff bach rhewllyd a elwir Gwregys Kuiper, cwmwl enfawr o gomedau a elwir y Cwmwl Oort, a rhanbarth o blanedau llai rhewllyd a elwir y Ddisg Wasgaredig.

Ffurfiodd Cysawd yr Haul tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl, wrth i gwmwl o nifwl ddymchwel ar ei hun, drwy rymoedd disgyrchiant, i wrthrych a elwir yn Gorrach Melyn, gan ddechrau adwaith ymasiad niwclear, yn llosgi hydrogen i gynhyrchu heliwm. Erbyn hyn, mae'r haul yn ei gyfnod prif ddilyniant, sydd yn golygu bod grymoedd disgyrchiant a gwasgedd pelydriad yn hafal, ac felly mae'r haul yn aros yr un maint.

Nodweddion y planedau golygu

Nodweddion y planedau
EnwDiametr
y cyhydedd
MasRadiws
yr orbid
Amser un orbid
(blwyddyn)
Ongl / osgo
at yr Haul (°)
Amrywiadau yn yr orbidAmser mae'n gymryd
i gylchdroi
(dydd)
Lleuadau
/ lloerenau
ModrwyauAtmosffêr
Planedau Mewnol
(Creigiog)
Mercher0.3820.060.390.243.380.20658.64nag oesfawr ddim
Gwener0.9490.820.720.623.860.007-243.02nag oesCO2, N2
Daear1.001.001.001.007.250.0171.001nag oesN2, O2
Mawrth0.5320.111.521.95.650.0931.032nag oesCO2, N2
Planedau Allanol
(Y Cewri Nwy)
Iau11.209317.85.2011.866.090.0480.4163oesH2, He
Sadwrn9.44995.29.5429.465.510.0540.43200oesH2, He
Wranws4.00714.619.2284.016.480.047-0.7227oesH2, He
Neifion3.88317.230.06164.86.430.0090.6713oesH2, He
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion

Gwrthrychau Cysawd yr Haul golygu

Dolenni allanol golygu


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.