Taleithiau a thiriogaethau Awstralia

Mae taleithiau a thiriogaethau Awstralia yn adrannau gweinyddol ffederal yn Awstralia sy'n cael eu rheoli gan lywodraethau rhanbarthol. Y rhain yw'r ail lefel o lywodraethu rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau lleol.

Taleithiau a thiriogaethau Awstralia
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol Edit this on Wikidata
Mathadministrative territorial entity of Australia, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Taleithiau a thiriogaethau Awstralia
Esbylygiad taleithiau Awstralian

Mae'r taleithiau yn endidau hunanlywodraethol, er nad oes ganddynt sofraniaeth lwyr. Mae ganddynt eu cyfansoddiadau eu hunain, yn ogystal â deddfwrfeydd, adrannau gweinyddol, a rhai awdurdodau sifil (e.e. barnwriaeth a heddlu).

Yn ymarferol mae'r tiriogaethau yn debyg iawn i'r taleithiau, ac yn gweinyddu polisïau a rhaglenni lleol. Fodd bynnag, maent yn israddol yn gyfansoddiadol ac yn ariannol i'r llywodraeth ffederal ac felly nid oes ganddynt wir sofraniaeth.

Mae gan Awstralia chwe thalaith a dwy diriogaeth.

Taleithiau Australia
TalaithTalfyriadPrifddinasPoblogaeth
(2021)[1]
Prif Weindog
 De AwstraliaSAAdelaide1,773,243Peter Malinauskas
 De Cymru NewyddNSWSydney8,189,266Dominic Perrottet
 Gorllewin AwstraliaWAPerth2,681,633Mark McGowan
 QueenslandQLDBrisbane5,221,170Annastacia Palaszczuk
 TasmaniaTASHobart541,479Peter Gutwein
 VictoriaVICMelbourne6,649,159Daniel Andrews
Tiriogaethau Australia
TalaithTalfyriadPrifddinasPoblogaeth
(2021)[1]
Prif Weindog
 Tiriogaeth y GogleddNTDarwin246,338Michael Gunner
 Tiriogaeth Prifddinas AwstraliaACTCanberra432,266Andrew Barr
Tiriogaethau eraill
TiriogaethAnheddiad mwyafPoblogaeth
(2021)[1]
Gweinyddir gan
 Tiriogaeth Bae JervisJervis Bay Village405 Tiriogaeth Prifddinas Awstralia
 Ynys Arglwydd HoweYnys Arglwydd Howe382 De Cymru Newydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Ystadegau amcangyfrifedig, Mehefin 2021: "National, state and territory population, June 2021" (yn Saesneg). Swyddfa Ystadegau Awstralia (Australian Bureau of Statistics). Mehefin 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.