Järvenpää
Järvenpää (ynganiad Estoneg: [ˈjærʋemˌpæː]; Swedeg: Träskända) yn dref a dinesig o'r Ffindir.
Math | dinas, bwrdeistref y Ffindir |
---|---|
Poblogaeth | 46,490 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Iiris Laukkanen |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Vác, Buchholz in der Nordheide, Pasadena, Täby Municipality, Sir Jõgeva, Lørenskog, Rødovre Municipality, Volkhov |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Helsinki metropolitan area |
Sir | Uusimaa |
Gwlad | Y Ffindir |
Arwynebedd | 37.54 km² |
Yn ffinio gyda | Mäntsälä, Sipoo, Tuusula |
Cyfesurynnau | 60.4722°N 25.0889°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Järvenpää |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Iiris Laukkanen |
Hanes golygu
Gwahanwyd Järvenpää oddi wrth ei riant gymuned Tuusula yn 1951a rhoddwyd y statws o dref farchnad (kauppala) iddi ar ôl y gwahanu. Ni ychwanegwyd ardaloedd cyfagos Kellokoski a Nummenkylä at ddref Järvenpää ar y pryd, ac mae'r ddadl dros y mater yn dal yn codi pwysedd gwaed hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Parhaodd Kellokoski i fod yn rhan o fwrdeistref Tuusula. Rhoddwyd statws cyfreithiol tref (kaupunki) i Järvenpää 1967.
Daearyddiaeth golygu
Lleolir Järvenpää tus 37 km (23 milltir) i'r gogledd o Helsinki ar hyd rheilffordd Helsinki–Riihimäki, yn gyfagos i ddinasoedd eraill Tuusula, Sipoo a Mäntsälä. Mae pobl hefyd yn cyfeirio at Kerava fel cymydog agos i Järvenpää, ond mewn gwirionnedd nid ydynt yn rhannu ffîn oherwydd i rhan o dir eang 1 km o hyd sy'n perthyn i Tuusula a safai rhyngddynt.
Trafnidiaeth golygu
Mae'r rheilffordd yn mynd trwy ganol y dref. Yn o gystal â'r brif orsaf reilffordd Järvenpää, mae gorsafoedd cyfagos sef Kyrölä, Saunakallio, Haarajoki a Purola yn gwasanaethu'r ddinas.
Mae'r siwrna i Helsinki yn cymeryd tua hanner awr, p'un ai ar y trên neu ar y ffordd, a thua 20 munud i faes awyr Helsinki-Vantaa. Mae cysylltiadau trên i'r brif ddinas yn dda. O Uusimaa mae trenau yn gadael y brif orsaf ddwywaith awr (xx:14 a xx:41), ac o orsafoedd eraill unwaith yn awr.[1]
Diwylliant golygu
Caiff Järvenpää ei adnabod yn eang am leoliad Ainola, cartref y cyfansoddwr Jean Sibelius. Mae wedi ei lleoli tua dwy cilomedr i'r de o ganol y dref. Symudodd y cyfansoddwr a'i deulu i'r bwthyn yma a gynllunwyd gan Lars Sonck ar yr 24 o Fedi, 1904, a bu'n byw yno tan ei farwolaeth ym 1957. Mae Ainola ar agor i ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf fel "Amgueddfa Sibelius".
Symudodd Juhani Aho a'i wraig Venny Soldan-Brofeldt i Järvenpää yn 1897. Byddent iddynt fyw mewn bwthyn yno o'r enw Vårbacka, nesaf at lan Llyn Tuusula am 14 mlynedd. Fe ail-enwid y bwthyn yn ddiweddarach yn Ahola.
Digwyddiadau golygu
Cynhelir digwyddiadau yn y Järvenpää-talo (yn llythrennol Tŷ-Järvenpää) drwy gydol y flwyddyn: cyngherddau, theatr a sioeau celf. Mae plant yn hoffi chwarae yng nghartref Pikku-Aino, lle gallent hefyd wneud sioeau ac yn y blaen.
Mae digwyddiad cerddorol, sy'n cael ei drefnu bob blwyddyn, a elwir yn fi (Puistoblues) (yn llythrennol 'Melanganeon y Parc'). Mae 'Wythnos y Melanganeon' yn dechrau o 'Stryd y Melaganeon' o ganol y ddinas, ac fe drefnir cyngherddau a sesiynau anffurfiol mewn tafarndai a thai bwyta. Mae'r brif gyngerdd ar ddiwedd 'Wythnos y Melanganeon', a gaiff ei drefnu yn Vanhankylänniemi ar y Dydd Sadwrn.
Ardaloedd golygu
Mae Järvenpää wedi ei rannu'n 25 ardal:
1. Wärtsilä2. Nummenkylä3. Pietilä4. Haarajoki5. Jamppa6. Peltola7. Isokytö8. Mylly9. Saunakallio10. Sorto11. Pajala12. Loutti13. Pöyäalho14. Terhola15. Satumetsä16. Mikonkorpi17. Kaakkola18. Keskus19. Kinnari20. Satukallio21. Vanhakylä22. Lepoja23. Kyrölä24. Terioja25. Ristinummi
Gwleidyddiaeth golygu
Canlyniadau o ethodiad seneddol y Ffindir 2011 yn Järvenpää:
- Plaid y Glymblaid Genedlaethol/National Coalition Party 27.1%
- Plaid y Democratiaid Sosialaidd/Social Democratic Party 21.7%
- Y Geir Ffiniaid/True Finns 21.5%
- Y Gynghrair Werdd/Green League 10.3%
- Y Baid Ganolog/Centre Party 6.7%
- Cynghriar y Chwith/Left Alliance 6.2%
- Y Democratiaid Cristnogol/Christian Democrats 3,6%
- Plaid y Bobl Swedeg/Swedish People's Party 0.7%
Rheolaeth a Gwleidyddiaeth golygu
Perthynnai Järvenpää i Uudenmaan vaalipiiri (ardal etholiadol o Uusimaa) ac mae gan gyngor y dref 51 o cynghorwyr. Grwpiau gwleidyddol cyngor y dref rhwng 2004 a 2008 oedd :
- Suomen Sosialidemokraattinen Puolue (Plaid y Democratiaid Sosialaidd y Ffindir) (14 cynghorwr),
- Kokoomus (Plaid y Glymblaid Genedlaethol) (13),
- Järvenpää 2000 Plus (7),
- Keskusta (Y Blaid Ganolog) (7),
- Vihreä liitto (Y Gynghrair Werdd)[2] (4),
- Vasemmistoliitto (Cynghrair y Chwith) (3),
- Kristillisdemokraatit (Y Democratiatd Cristnogol) (1),
- Suomen kommunistinen puolue (Plaid Comiwnyddol y Ffindir) (1),
- Liberaalit (Rhyddfydwyr) (1).
Arlywydd y cyngor oedd Ari Åberg (Kokoomus).[3]
Cysylltiadau rhyngwladol golygu
Gefeilldrefi golygu
Mae Järvenpää wedi ei gefeillio â:
- Vác, Hwngari
- Rødovre, Denmarc
- Lørenskog, Norwy
- Täby, Sweden
- Jõgeva County, Estonia
- Volkhov Rwsia
- Buchholz in der Nordheide, yr Almaen
- Pasadena, Califfornia, Unol Daleithiau America
- Ho, Ghana
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Railway timetables Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. - ↑ "Tervetuloa! - Järvenpään vihreät ry". Jarvenpaanvihreat.fi. Cyrchwyd 2014-02-26.
- ↑ "Statistic Finland municipal election results. (2004)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2021-02-18.
Dolenni allanol golygu
- Järvenpää - Wikivoyage
- Tref Järvenpää Archifwyd 2006-05-02 yn y Peiriant Wayback. – safle Swyddogol
- Puistoblues ŵyl