Eddie Redmayne

actor a aned yn 1982

Mae Edward John David Redmayne, OBE (ganed 6 Ionawr 1982)[1] yn actor Seisnig. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn y theatr ac ar y teledu yn y 2000au cynnar cyn iddo wneud ei ddebut yn y ffilm, Like Minds, yn 2006. Ers hynny, y mae wedi ymddangos mewn ffilmiau megis The Good Shepherd (2006), Savage Grace (2007), Elizabeth: The Golden Age (2007), My Week with Marilyn (2011), Les Misérables (2012), The Theory of Everything (2014), Jupiter Ascending (2015), a The Danish Girl (2015).

Eddie Redmayne
GanwydEdward John David Redmayne Edit this on Wikidata
6 Ionawr 1982 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, model, actor teledu, actor Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
TadRichard Charles Tunstall Redmayne Edit this on Wikidata
MamPatricia Burke Edit this on Wikidata
PriodHannah Jane Bagshawe Edit this on Wikidata
PlantIris May Redmayne, Luke Richard Bagshawe Redmayne Edit this on Wikidata
Gwobr/auLaurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr y Screen Actors Guild am y Perfformiad mwyaf Arbennig gan Ddyn mewn Rol Blaenllaw, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr y 'Theatre World', OBE, Golden Globes Edit this on Wikidata

Canmolwyd Redmayne ar gyfer ei berfformiad fel Stephen Hawking yn The Theory of Everything, yn ennill y wobr ar gyfer yr Actor Gorau yng Ngwobrau'r Academi, Gwobrau BAFTA, Gwobrau Golden Globe, a Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrin. Mae wedi parhau gyda pherfformio yn y theatr, yn fwyaf adnabyddus ar gyfer ei rôl yn y ddrama Red (2010), yn Broadway. Enillodd y Wobr Tony ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Drama ar gyfer ei waith.

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Redmayne ar 6 Ionawr, 1982 yn Westminster, Llundain.[2] Mae ei fam, Patricia (cynt Burke), yn rhedeg busnes adleoli, ac mae ei dad, Richard Redmayne, yn ddyn busnes.[3] Ei hen dad-cu ar ochr ei dad oedd y peiriannydd sifil a mwyngloddio, Syr Richard Redmayne.[4] Mae ganddo frawd hŷn, brawd iau, hanner-frawd[4] a hanner-chwaer hŷn.[5] Daw Redmayne o linach Seisnig, Gwyddelig, Albanaidd a Chymreig.[6]

Mynychodd Llys Colet,[7] wedyn Coleg Eton, lle astudiodd yn yr un flwyddyn a'r Tywysog William.[8][9] Aeth yn ei flaen i astudio hanes celf yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd gydag Anrhydeddau 2:1 yn 2003.[10]

Gyrfa

golygu

Modelu

golygu

Cyn troi'n actor llawn-amser, modelodd Redmayne gyda Burberry, yn 2008 gydag Alex Pettyfer ac yn 2012 gyda Cara Delevingne.[11][12] Yn rhifyn mis Medi 2012 o Vanity Fair, fe'i gynhwyswyd ar ei Rhestr Ryngwladol Flynyddol o Wisgo'n Dda.[13] In 2015, fe'i enwyd fel y cyntaf yn y rhestr o 50 o ddynion Prydeinig sy'n gwisgio'n dda gan GQ.[14]

Llwyfan

golygu

Gwnaeth Redmayne ei ddebut proffesiynol ar y llwyfan fel Viola yn Nos Ystwyll, ar gyfer Shakespeare's Globe yn y Deml Ganol yn 2002.[15] Enillodd y Wobr ar gyfer y Newydd-ddyfodiad Rhagorol yn y 50ain Gwobrau Theatr yr Evening Standard yn 2004, ar gyfer ei berfformiad yn The Goat, or Who Is Sylvia? Edward Albee,[16] a'r wobr ar gyfer y Newydd-ddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Theatr y Critics' Circle yn 2005.[17] Cynhwysa ei gredydau'r llwyfan hwyrach Now or Later gan Christopher Shinn yn Theatr y Royal Court. Rhedodd y sioe o 3 Medi to 1 Tachwedd, 2008.[18]

Yn 2009, ymddangosodd Redmayne yn nrama newydd John Logan Red yn y Donmar Warehouse yn Llundain,[19] ac enillodd y Wobr Olivier yn 2010 ar gyfer yr Actor Gorau mewn Rôl Gefnogol. Chwaraeodd ei rôl yn Red eto yn y Theatr John Golden ar Broadway, mewn rhediad 15-wythnos o 11 Mawrth i 27 Mehefin, 2010,[20] ac enillodd y Wobr Tony ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Drama. Chwaraeodd y Brenin Rhisiart II yn Richard II a gyfarwyddwyd gan Michael Grandage, yn y Donmar Warehouse o 6 Rhagfyr, 2011 i 4 Chwefror, 2012.[21]

Ffilmiau a theledu

golygu
Redmayne yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2014. 

Castiwyd Redmayne yn ei brif ffilm gyntaf Like Minds (2006) ar ôl iddo gael ei ddarganfod gan y gyfarwyddwraig gastio Lucy Bevan tra'n perfformio mewn drama o'r enw Goats.[22] Ymddangosodd Redmayne mewn ffilmiau megis The Good Shepherd, Powder Blue, Savage Grace, The Other Boleyn Girl, Hick, Glorious 39, a Jupiter Ascending. Serennodd fel Osmund yn ffilm iasol othig oruwchnaturiol Christopher Smith Black Death.[23] Rhyddhawyd ei ffilm ddrama 2008 The Yellow Handkerchief ar 26 Chwefror, 2010 gan Ffilmiau Samuel Goldwyn.[24][25]

Serennod fel y gwneuthurwr ffilmiau Colin Clark yn y ffilm ddrama My Week with Marilyn. Chwaraeodd y rôl Marius Pontmercy yn y ffilm gerddorol 2012 Les Misérables.[26][27] Yn 2014, serennodd fel Stephen Hawking yn The Theory of Everything, ac ar gyfer y rôl hon, enillodd Wobr yr Academi, BAFTA, Golden Globe a Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrin ar gyfer yr Actor Gorau, ar gyfer ei bortread o heriau gwanychol ALS.[28][29]

Gwnaeth Redmayne ei ddebut sgrin yn 1998 mewn pennod Animal Ark.[30] Cynhwysa ei gredydau teledu y mini-gyfres BBC Tess of the d'Urbervilles, y mini-gyfres The Pillars of the Earth, a'r mini-gyfres dwy ran Birdsong.[31]

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddwyd y serennir Redmayne fel Newt Scamander yn yr addasiad ffilm o Fantastic Beasts and Where to Find Them, stori sy'n ddeillio o Harry Potter, gyda sgript gan J. K. Rowling.[32][33]

Gwelir Redmayne nesaf yn y ddram fygraffyddol The Danish Girl, a gyfarwyddwyd gan enillydd Gwobr yr Academi Tom Hooper. Yn y ffilm, a ryddheir yn y Deynras Unedig ym mis Ionawr, 2016, chwaraea Redmayne yr arloeswraig drawsryweddol Lili Elbe, castiad a feirniadwyd gan rhai yn y gymuned drawsryweddol.[34] Er hyn, mae perfformiad Redmayne wedi derbyn adolygiadau da gan feirniaid, gyda rhai yn ei labelu fel y ceffyl blaen yn y ras i ennill Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Gorau.[35]

Bywyd personol

golygu

Mae Redmayne wedi bod yn briod i Hannah Bagshawe, gweithredwr cysylltiadau cyhoeddus yn y diwydiant cyllid, ers 15 Rhagfyr, 2014.[36][37] Fe'i benodwyd yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn yr Anrhydeddau Pen-blwydd 2015 ar gyfer ei waith drama.[38][39] Ym mis Awst 2014, fe'i benodwyd fel llysgennad i'r elusen ffilm Into Film.[40]

Ffilmyddiaeth

golygu

Ffilmiau

golygu
BlwyddynTeitlRôlNodiadau
2006Like MindsAlex Forbes
2006The Good ShepherdEdward Wilson Jr.
2007Savage GraceAntony Baekeland
2007Elizabeth: The Golden AgeAnthony Babington
2008The Yellow HandkerchiefGordy
2008The Other Boleyn GirlWilliam Stafford
2008Powder BlueQwerty Doolittle
2009Glorious 39Ralph Keyes
2010Black DeathOsmund
2011HickEddie Kreezer
2011My Week with MarilynColin Clark
2012Les MisérablesMarius Pontmercy
2014The Theory of EverythingStephen Hawking
2015Jupiter AscendingBalem Abrasax
2015Thomas & Friends: Sodor's Legend of the Lost TreasureRyanLlais
2015The Danish GirlEinar Wegener/Lili Elbe
2016Fantastic Beasts and Where to Find ThemNewt ScamanderFfilmio[41]

Teledu

golygu
BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1998Animal ArkJohn HardyPennod: "Bunnies in the Bathroom"
2003DoctorsRob HuntleyPennod: "Crescendo"
2005Elizabeth IThe Earl of SouthamptonPennod: "Southampton"
2008Tess of the d'UrbervillesAngel Clare4 pennod
2010The Pillars of the EarthJack Jackson8 pennod
2010[42]The Miraculous YearConnorPeilot
2012BirdsongStephen Wraysford2 bennod
2015[43]War Art with Eddie RedmayneEi hunanRhaglen ddogfen
2015–presennolThomas & FriendsRyanLlais

Theatr

golygu
BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1994Oliver!Bachgen y Wyrcws #46 / Bachgen LlyfrauPaladiwm Llundain
2002Nos YstwyllViolaGlôb Shakespeare
2003"Master Harold"...and the BoysMaster HaroldTheatr yr Everyman
2004The Goat, or Who Is Sylvia?BillyTheatr yr Almeida
2004HecubaPolydorusDonmar Warehouse
2007Now or LaterJohn Jr.Theatr y Llys Brenhinol
2009–2010RedKenDonmar Warehouse

Theatr John Golden

2011–2012Richard IIBrenin Rhisiart IIDonmar Warehouse

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Eddie Redmaynep profile". Debretts.com. 6 January 1982. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-06. Cyrchwyd 2 January 2011.
  2. "Redmayne profile". Ftvdb.bfi.org.uk. 16 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 2 January 2011.
  3. "Fast Eddie". Eddieredmayne.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 22 February 2015.
  4. 4.0 4.1 "Eddie Redmayne Facts: 23 Things You (Probably) Don't Know About the 'Theory of Everything' Star". The Moviefone Blog.
  5. "Eddie Redmayne interview". Cyrchwyd 23 November 2014.
  6. "Eddie Redmayne". ethnicelebs.com. 25 October 2012. Cyrchwyd 9 August 2015.
  7. Redmayne tipped to land Academy Award, dailymail.co.uk; accessed 23 February 2015.
  8. "Next Big Thing: Eddie Redmayne". GQ. 28 November 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-05. Cyrchwyd 19 December 2012. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  9. Gysin, Christian; Kisiel, Ryan (4 February 2012). "Prince William with the Birdsong heart-throb and fellow Eton prefects... and some VERY wacky waistcoats". The Daily Mail. London. Cyrchwyd 19 December 2012.
  10. Babb, Fran (19 November 2011). "Eddie Redmayne: the loneliness of being a hot young actor". The Guardian. London, UK. Cyrchwyd 15 January 2012.
  11. Kate Thomas (May 14, 2015). DailyMail http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-3081721/Eddie-Redmayne-spruces-new-Burberry-shoot.html. Cyrchwyd November 19, 2015. Missing or empty |title= (help)
  12. "Eddie Redmayne, Cara Delevingne pose for Burberry - videos, pictures". Digitalspy.com.au. Cyrchwyd 15 January 2012.
  13. "Vanity Fair 2012 International Best Dressed List". Vanity Fair. 31 July 2012. Cyrchwyd 10 September 2012.
  14. "50 Best Dressed Men in Britain 2015". GQ. 5 January 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-07. Cyrchwyd 23 February 2015.
  15. "Eddie Redmayne: The darling of the Donmar is making tracks into Hollywood". The Independent. 7 January 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-24. Cyrchwyd 6 March 2015.
  16. Curtis, Nick (17 December 2004). "I'm living the dream; old Etonian Eddie Redmayne could have been a professional chorister, a pop star or a model, but his decision to become an actor paid off this week when he was named the Evening Standard's outstanding newcomer". London Evening Standard. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-26. Cyrchwyd 26 October 2014. Unknown parameter |subscription= ignored (help)
  17. "Almost Famous". The Times. 26 May 2005.
  18. "Royal Court Theatre". royalcourttheatre.com. 26 May 2005. Cyrchwyd 23 February 2015.
  19. Baluch, Lalayn (17 April 2009). "West to Appear in Donmar's Life Is a Dream". Thestage.co.uk. Cyrchwyd 2 January 2011.
  20. "John Golden Theater New York, NY". Newyorkcitytheatre.com. Cyrchwyd 2 January 2011.
  21. "Richard II, opening night 06.12.2011". The Official London Theatre Guide. Cyrchwyd 18 November 2011.
  22. "IN CONVERSATION: LUCY BEVAN (CASTING DIRECTOR – CINDERELLA, MALEFICENT, AN EDUCATION)". filmdoctor.co.uk. 18 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-28. Cyrchwyd 1 April 2015.
  23. "Fantasia 2010: New Stills: Chris Smith's Black Death". Dreadcentral.com. Cyrchwyd 2 January 2011.
  24. "Three Loners on a Road Leading to One Another". New York Times. 25 February 2010. Cyrchwyd 7 March 2015.
  25. "Kristen Stewart and Eddie Redmayne Exclusive Video Interview THE YELLOW HANDKERCHIEF". collider. 25 February 2010. Cyrchwyd 7 March 2015.
  26. Jensen, Jeff. "Eddie Redmayne lands 'Les Miserables' role". Insidemovies.ew.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-09. Cyrchwyd 23 February 2015.
  27. "Les Miserables Adds Eddie Redmayne". Comingsoon.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-09. Cyrchwyd 23 February 2015.
  28. "Eddie Redmayne wins first Oscar for 'Theory of Everything'". Reuters. 23 February 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26. Cyrchwyd 7 March 2015.
  29. "Watch Eddie Redmayne's Charming Best Actor Acceptance Speech at the Oscars". Time. Cyrchwyd 7 March 2015.
  30. "heat unearths Eddie Redmayne's first TV role!". Heat. 3 March 2015. Cyrchwyd 6 March 2015.
  31. "Eddie Redmayne and Clemence Poesy answer BBC One's Birdsong call". BBC Press Office. 16 May 2011. Cyrchwyd 22 January 2012.
  32. "Eddie Redmayne to star in JK Rowling's Fantastic Beasts - BBC News". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2015-06-04.
  33. Graeme McMillan (June 1, 2015). "Eddie Redmayne Officially Cast in 'Harry Potter' Prequel 'Fantastic Beasts and Where to Find Them'". The Hollywood Reporter. (Prometheus Global Media). Cyrchwyd June 2, 2015.
  34. http://www.bustle.com/articles/22954-eddie-redmayne-cast-as-transgender-do-we-need-another-straight-cisgender-dude-in-a-lgbtq
  35. http://www.bbc.com/culture/story/20150907-will-redmayne-win-an-oscar-for-the-danish-girl
  36. "How going topless helped Eddie Redmayne win his wife's heart". Mail Online.
  37. "It's OFFICIAL! Actor Eddie Redmayne marries Hannah Bagshawe in Winter Wonderland ceremony at Somerset's Babington House". Daily Mail. London, UK. 15 December 2014. Cyrchwyd 23 February 2015.
  38. "2015 Queen's Birthday Honours" (PDF). The London Gazette. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-06-20. Cyrchwyd 2015-12-31.
  39. London Gazette: (Supplement) no. 61256. pp. B10–B14. 13 June 2015. Retrieved 13 June 2015.
  40. "Eddie Redmayne appointed ambassador of film education charity". RadioTimes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-22. Cyrchwyd 2015-10-27.
  41. "Filming Gets Underway on "Fantastic Beasts and Where to Find Them"". Business Wire. Cyrchwyd 2015-08-17.
  42. "Eddie Redmayne - United Agents". unitedagents.co.uk.
  43. "War Art with Eddie Redmayne". tvfinternational.com. Cyrchwyd 23 May 2015.