Ysgol Gyfun Bro Myrddin

Ysgol uwchradd yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin ydy Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae'n gwasanaethu ardal tref Caerfyrddin, Dyffryn Tywi, a rhannau eraill o orllewin, gogledd, a de Sir Gaerfyrddin. Ers 2016 mae wedi bod yn ysgol categori 2CH ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir pob pwnc ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl.[1] Y pennaeth presennol yw Dr Llinos Jones, hi yw'r pedwerydd olynydd i'r swydd ers sefydlu'r ysgol ym mis Medi 1978.

Ysgol Gyfun Gymraeg
Bro Myrddin
Adeiladau'r ysgol
ArwyddairHeb Ddysg Heb Ddeall
Sefydlwyd1978
MathCyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithCymraeg
PennaethDr Llinos Jones
CadeiryddParchedig Beti-Wyn James
LleoliadCroesyceliog, Caerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA32 8DN
AALlCyngor Sir Gaerfyrddin
Disgyblion950
RhywCyd-addysgol
Oedrannau11–18
LlysoeddHengwrt     , Hergest     Llwydiarth     , Peniarth     
LliwiauLelog a du          
Gwefanhttp://www.yggbm.org

Hanes

golygu
Eisteddfod yr Ysgol, 2009

Roedd sefydlu'r ysgol yn 1978 yn gryn sialens gan nad oedd yr awdurdod addysg yn gweld galw uniongyrchol am addysg uwchradd Gymraeg, er bod sawl ysgol gynradd leol yn bodoli cyn hynny gan gynnwys, Ysgol y Dderwen yn nhref Caerfyrddin ei hun. Roedd adnoddau cyntefig iawn am ychydig dros bymtheg mlynedd.

Ail-leolwyd yr ysgol o Gaerfyrddin i safle newydd ger Croesyceiliog, mewn adeiladau eithaf safonol a modern. Lleolwyd yr ysgol gynt yng nghanol tref Caerfyrddin yn hen adeiladau Fictorianaidd yr ysgol ramadeg.

Bro Myrddin o Bryn Alltycnap
Arwydd y Mynediad

Yn ddiweddar mae'r ysgol wedi lansio ymgyrch i wella darpariaeth pynciau cyfoes megis Adeiladwaith a Thrin Gwallt ac ym Medi 2008 agorwyd y ganolfan Sgiliau, mewn cydweithrediad efo Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Strade, ac Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa.

Cynhelir Eisteddfod Ysgol yn flynyddol yn neuadd yr ysgol, a cynhelir mabolgampau ar drac rhedeg Caerfyrddin, yn Nhre Ioan ger Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.

Addysg

golygu

Ysgol Bro Myrddin sydd â canlyniadau TGAU gorau yn Sir Gaerfyrddin, heblaw Ysgol Bonedd St. Michael's, Llanelli. Enillodd tua 84% o ddisgyblion graddau TGAU A*–C yn 2007, sydd yn ffigwr uchel. Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei hatgyfnerthu gan wasanaethau boreol, gwersi a phrofiadau niferus eraill o fewn a thu allan i'r ysgol.

Penaethiad Bro Myrddin

golygu
  • 1978–1996 Mr Gareth Evans
  • 1996–2006 Mr Eric Jones
  • 2006–2013 Mr Dorian T. Williams
  • 2013– Dr Llinos Jones

Cwricwlwm

golygu
  • Pynciau Craidd: Cymraeg, Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Dyniaethau: Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Crefyddol
  • Pynciau Creadigol: Drama, Dylunio a Technoleg a Cerdd
  • Technoleg: TG, Deunydd Gwrthiannol, Arlwyaeth, Iechyd a Gofal, Tecstiliau, Gweithgynhyrchiad Dodrefn a cynhyrchion graffigol
  • Ieithoedd Modern: Ffrangeg, Almaeneg
  • Eraill: Astudiaethau Busnes

Swyddogion

golygu
SwyddEnw
PennaethDr Llinos Jones
Dirprwy BennaethMr. Jonathan Thomas
Penaethiaid CynorthwyolMr Steffan Davies

Mrs Rhian Carruthers

Mrs. Eirlys Thomas

Miss. Nia Williams

Pennaeth Addysg GorfforolMr. John Nogrove
Pennaeth Addysg GrefyddolMrs. Gwennan Morgan
Pennaeth BacMiss. Elin Jones
Pennaeth CelfMr. Wyn Mainwaring
Pennaeth CerddMr. Berian Lewis
Pennaeth CymraegMrs. Helen Evans
Pennaeth DaearyddiaethMr. Alun Thomas
Pennaeth DramaMrs. Lowri Davies
Pennaeth DTMr. Robyn Davies
Pennaeth GwyddoniaethMiss. Catrin Pritchard
Pennaeth HanesMrs. Bethan Hubbard
Pennaeth Ieithoedd ModernMiss. Claire Russell
Pennaeth MathemategMrs. Luned Davies
Pennaeth SaesnegMrs. Llinos Mary Jones
Pennaeth TGChMr. Christopher Lacey

Penaethiaid Blwyddyn

golygu
2017-20182018-20192019-20202020-20212021-20222022-20232023-2024
Blwyddyn 7Mrs. Luned DaviesMrs. Tracy Jenkins
Blwyddyn 8Mrs. Tracy JenkinsMr. Steffan DaviesMrs. Tracy JenkinsMr. Steffan DaviesMrs. Tracy JenkinsMiss. Elin Jones
Blwyddyn 9Mr. Steffan DaviesMrs. Tracy JenkinsMr. Steffan DaviesMrs. Tracy JenkinsMr. Christopher LaceyMrs. Gwennan Morgans
Blwyddyn 10Mr. Gareth JonesMrs. Eirlys ThomasMr. Gareth JonesMrs. Eirlys ThomasMiss. Elin JonesMr. Gareth JonesMrs. Lowri Davies
Blwyddyn 11Mrs. Eirlys ThomasMr. Gareth JonesMrs. Eirlys ThomasMr. Gareth JonesMrs. Lowri DaviesMr. Gareth Jones
ChwechedMr. Tim Hayes
Is-ChwechedMrs. Lowri DaviesMrs. Alwen Owen

Cyn-ddisgyblion enwog

golygu

Gweler hefyd y categori: Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu