Casgliad o unedau a ddiffiniwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Pwysau a Mesurau Lloegr o 1824 yw'r system o unedau imperial. Cyflwynwyd yr unedau yn y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau, gan gynnwys gwledydd y Gymanwlad (er bod y rhan fwyaf o'r wledydd hyn yn fetrig yn swyddogol), ond nid yn yr Unol Daleithiau, a oedd eisoes yn annibynnol bryd hynny.
Ar ôl 1 Gorffennaf 1959, fe ddiffiniwyd llath yr Unol Daleithiau a’r llath Brydeinig yn unfath (0.9144m) fel y llath ryngwladol.
1 erw | = 1 ystaden × 1 gadwyn | = 1/640 o filltir sgwâr | = 43,560 o droedfeddi sgwâr | = ~0.4047 ha (hectarau) | = ~4047 m² |
Yn 1824, mabwysiadodd Prydain y galwyn imperial, a fu'n seiliedig ar gyfaint 10 lb o ddŵr distylledig wedi'i bwyso mewn awyr â phwysau pres, a'r baromedr yn sefyll wrth 30 inHg (modfeddi o fercwri) â thymheredd o 62 °F. Newidiodd Deddf Pwysau a Mesurau o 1985 ddiffiniad galwyn i 4.54609L yn union.
Uned | Gwerth cymharol i'r peint | Gwerth metrig |
---|
Owns hylif (fl oz) | 1/20 | ~28.41 ml |
Gil | 1/4 | ~142.1 ml |
Peint (pt) | 1 | ~568.2 ml |
Chwart | 2 | ~1.136 L |
Galwyn (gal) | 8 | 4.54609 L (yn union) |
Sylwer bod y dunnell Brydeinig yn hafal i 2240 o bwysi ("y dunnell hir"), sy'n agos iawn i'r dunnell fetrig, er bod y dunnell a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr Unol Daleithiau yn hafal i 2200 o bwysi ("y dunnell fer", sef 907.184 74 kg).