Samson (sant)

abad ac esgob yn yr Eglwys Geltaidd (c. 485 — c. 565)

Sant o Gymru a ymsefydlodd yn Llydaw oedd Samson (c. 485 — c. 565), Llydaweg:Samzun. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.

Samson
Sant Samson. Llun o Lydaw.
Ganwydc. 490 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 565 Edit this on Wikidata
Dol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl18 Gorffennaf Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiadau golygu

Ceir buchedd Ladin gynnar i Samson, y Vita Sancti Samsonis, a ysgrifennwyd rywbryd rhwng 610 ac 820. Dywedir ei fod yn fab i Amwn o Ddyfed ac Anna o Went. Cafodd ei addysgu gan sant Illtud yn Llanilltud Fawr, a daeth sant Dyfrig yno i'w ordeinio yn ddiacon ac yn ddiweddarch yn offeiriad. Treuliodd amser ar Ynys Bŷr ym mynachlog Pŷr ei hun, a daeth yn abad yno wedi marwolaeth Pŷr.

Teithiodd i Iwerddon, lle mae eglwysi wedi eu cysegru iddo yn Balgriffin ger Dulyn ac yn Ballysamson. Dychwelodd i Ddyfed i fyw fel meudwy am gyfnod, a chysegrodd Dyfrig ef yn esgob ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr. Gellir rhoi dyddiad pendant i'r digwyddiad yma o'r manylion yn ei fuchedd, sef 22 Chwefror 521. Treuliodd rai blynyddoedd yng Nghernyw; yn wir, mae yno ynys, sy'n rhan o Ynysoedd Syllan (Scilly Isles) wedi ei alw ar ei ôl. Wedi cyfnod yma, hwyliodd i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn Dol. Dywedir i sant Teilo ymweld ag ef yma yn 547, wedi iddo ffoi o Gymru rhag y Fad Felen.

Dywedir iddo fedru rhyddhau Iudual, tywysog gogledd Llydaw, oedd yn cael ei ddal yn garcharot ym Mharis gan Childebert, brenin y Ffranciaid, ac ymwelodd a'r ddinas eto yn 556, pan oedd yn bresennol mewn senedd esgobol. Arwyddodd ddogfen yma fel Samson peccator episcopus.

Ei wylmabsant yw 28 Gorffennaf.

Llefydd sy'n gysylltiedig â Samson golygu

Rhestr Wicidata:

#Eglwys neu GymunedDelweddCyfesurynnauLleoliadWicidata
1Abbey Church of St Mary, St Sansom and St Branwalader
50°49′12″N 2°17′16″W / 50.8199°N 2.28767°W / 50.8199; -2.28767Milton AbbasQ17531549
2Church of St Sampson
50°31′46″N 4°21′30″W / 50.5295°N 4.35821°W / 50.5295; -4.35821Henle SothQ17529112
3Eglwys Gadeiriol Dol
48°33′03″N 1°45′21″W / 48.550833333333°N 1.7558333333333°W / 48.550833333333; -1.7558333333333DolQ1425162
4Eglwys Sant Samson, Golant
50°21′59″N 4°38′39″W / 50.3664°N 4.64417°W / 50.3664; -4.64417St SampsonQ7595432
5Sant-Samzun
48°29′29″N 2°01′51″W / 48.491388888889°N 2.0308333333333°W / 48.491388888889; -2.0308333333333Canton Dinan-Kornôg
Aodoù-an-Arvor
Cymuned Dinan
Dinan Rhyng-gymunedol
arrondissement of Dinan
Q1012412
6St Sampson's Church
51°38′26″N 1°51′29″W / 51.6406°N 1.85796°W / 51.6406; -1.85796CrickladeQ17529272
7Ynys Samson
49°55′59″N 6°21′09″W / 49.933072°N 6.352633°W / 49.933072; -6.352633TrescoQ2007541
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu