Rygbi'r undeb

(Ailgyfeiriad o Rygbi'r Undeb)

Un or chwaraeon cyswllt llawn ydy rygbi'r undeb. Math o bêl-droed neu gnapan ydyw a ddechreuodd yn Lloegr ar ddechrau'r 19eg ganrif [1] Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.

Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru yw Undeb Rygbi Cymru.

Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.

Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (Yr Alban, Cymru, Yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr) a'r Pencampwriaeth Rygbi (Yr Ariannin, Awstralia, De Affrica a Seland Newydd) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn Ffrainc, y Currie Cup yn Ne Affrica, a'r ITM Cup yn Seland Newydd. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y RaboDirect Pro 12, y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r Cwpan Heineken, sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.

Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Safleoedd ar y maes golygu

Blaenwyr golygu

Prif gyfrifoldeb y blaenwyr yw ennill a chadw y meddiant. Mae'r blaenwyr fel arfer yn fwy ac yn gryfach, ac yn cymryd rhan yn y sgrym a'r llinell.

Rheng flaen golygu

1 Prop pen rhydd
2 Bachwr
3 Prop pen tyn

Ail reng golygu

4 Clo
5 Clo

Rheng ôl golygu

6 Blaenasgellwr ochr dywyll
7 Blaenasgellwr ochr agored
8 Wythwr

Cefnwyr golygu

9 Mewnwr
10 Maswr
11 Asgellwr chwith
12 Canolwr mewnol
13 Canolwr allanol
14 Asgellwr de
15 Cefnwr

Gweler hefyd golygu

Comin Wiki How
Mae gan Gomin Wiki How
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Origins of Rugby - Codification -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."