Rhyg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Monocotau
Ddim wedi'i restru:Comelinidau
Urdd:Poales
Teulu:Poaceae
Is-deulu:Pooideae
Llwyth:Triticeae
Genws:Secale
Rhywogaeth:S. cereale
Enw deuenwol
Secale cereale
L.
Secale cereale

Rhywogaeth o laswelltyn a dyfir ar gyfer y grawn yw Rhyg (Secale cereale). Mae'n aelod o deulu'r ŷd (Triticeae), ac yn perthyn yn agos i haidd a gwenith. Defnyddir y grawn ar gyfer blawd, bara, wisgi a fodca, ac fel bwyd anifeiliaid.

Daw rhyg yn wreiddiol o ganolbarth a dwyrain Twrci. Tyfir rhyg heddiw yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.

Prif gynhyrchwyr Rhyg golygu

Prif gynhyrchwyr Rhyg 2005
(miliwn o dunnelli metrig)
Rwsia3.6
Gwlad Pwyl3.4
Yr Almaen2.8
Bwlgaria1.2
Wcrain1.1
China0.6
Canada0.4
Twrci0.3
Unol Daleithiau0.2
Awstralia0.2
Cyfanswm13.3
Ffynhonnell:
FAO
[1]
  1. Major Food And Agricultural Commodities And Producers - Countries By Commodity


Eginyn erthygl sydd uchod am rawnfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
🔥 Top keywords: