Petroliwm

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, Unol Daleithiau America, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a ddefnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.

Ffynnon olew yng Nghanada; 2004
Prif gynhyrchwyr olew'r byd 1960-2006 - cyn Ffracio.
Y crofeydd olew sydd gan wledydd y byd wrth gefn, yn ôl y CIA
Y defnydd o olew gan wledydd y byd yn ôl 'NationMaster'; tywyll 0.07 casgen y dydd, golau - 0.0015 casgen y dydd y person
Y petroliwm a gynhyrchwyd yn Tecsas.

Mae pris olew yn gallu effeithio ar economi gwledydd y byd. Yn 2008 cafwyd argyfwng ariannol byd-eang yn dilyn codiad sydyn ym mhris petroliwm. Yn ôl rhai, roedd olew hefyd wrth wraidd ymosodiad Iraq ar Kuwait yn Awst 1990, a'r Unol Daleithiau ar Iraq ychydig wedyn yn 1991 - enw ymgyrch filwrol Unol Daleithiau America yn 2003 oedd Operation Iraqi Liberation (OIL).[1] Cyfansoddodd y canwr protest David Rovics gân o'r enw "Operation Iraqi Liberation (OIL)" a ddaeth yn anthem i'r mudiad gwrth-ryfel.

Ffurfiant golygu

Mae dwy theori yn bodoli am ffurfiant olew: theori ffurfiant biolegol a theori ffurfiant anfiolegol. Y prif theori yw'r theori ffurfiant biolegol, a phrin yw'r daearegwyr sy'n cefnogi'r theori anfiolegol.

Theori ffurfiant biolegol golygu

Yn ôl y theori ffurfiant biolegol, casglodd micro-organebau morol marw ar waelod y môr. Gorchuddiwyd y gwaddodion organig hyn gan waddodion anathraidd. Ar ôl miliynau o flynyddoedd o dymheredd uchel a gwasgedd sylweddol, caiff y defnydd organig ei ffosileiddio i ffurfio olew crai trwy'r broses o bydredd anaerobig. Nid yw'r olew crai yn hydawdd mewn dŵr, ac mae'n llai dwys felly mae'n arnofio ar wyneb y dŵr. Wrth i ddŵr godi, mae'n gwthio'r olew i fyny tua'r wyneb nes caiff yr olew ei ddal mewn man lle mae'r creigiau athraidd yn cael eu gorchuddio gan greigiau anathraidd. Ffurfir cronfa olew mewn haen blyg o'r graig athraidd, ac mae'r olew yn cael ei ddal yma. Mae'r broses hon yn debyg iawn i broses ffurfiant nwy naturiol.

Hon yw'r theori sy'n cael ei gredu gan y mwyafrif llethol o wyddonwyr, yn enwedig y daearegwyr sy'n chwilio am gronfeydd olew newydd. Nid oes unrhyw gwmni olew ar hyn o bryd yn seilio eu rhaglen archwilio ar unrhyw theori ffurfiant arall.

Theori ffurfiant anfiolegol golygu

Yn ôl y theori hon ni ffurfiwyd olew o ddefnydd organig marw, ond o fethan a oedd ar ôl dan y ddaear ers ei ffurfiant. Mae'r moleciwlau biolegeol yn yr olew yn rhai sy'n dod o ficro-organebau yn y creigiau wrth iddynt gasglu yn yr olew.

Diwydiant golygu

Caiff yr olew crai ei echdynnu o'r ddaear gan gwmniau olew trwy ddrilio i lawr drwy'r creigiau anathraidd. Mae'r gwasgedd sylweddol yn y gronfa olew yn achosi i'r olew ddod i'r wyneb. Fel arfer, cludir yr olew i burfeydd olew ar long arbennig a elwir yn dancer olew neu drwy bibell cludo olew. Yn y purfeydd olew, caiff yr olew ei wahanu i'w rhannau trwy broses o ddistylliad ffracsiynnol. Mae'r broses hon yn gwahanu'r olew ar sail ei berwbwynt i arunigo nifer o ffracsiynnau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys (yn nhrefn eu berwbwyntiau cynyddol) nwy petroliwm, petrol, nafftha, cerosin, diesel, olew iro, olew tanwydd, bitwmen a chynhyrchion olew eraill. Caiff y ffranciynnau hyn eu defnyddio fel tanwyddau (petrol, cerosin, diesel) neu fel ffynonellau o gemegau organig.

Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Cynhyrchiad golygu

Yng nghyd-destun cynhyrchu petroliwm, mae'r gair cynhyrchu yn cyfeirio ar yr olew craidd a echdynnir o'r ddaear; nid yw'n cynnwys olew a gaiff ei greu mewn dulliau eraill.

#Cenedl103bbl/d (2006)103bbl/d (2007)103bbl/d (2008)103bbl/d (2009)Cyfanswm cyfredol (2015)
1Sawdi Arabia (OPEC)10,66510,23410,7829,76011.8%
2Rwsia 19,6779,8769,7899,93412.0%
3Unol Daleithiau 18,3318,4818,5149,14111.1%
4Iran (OPEC)4,1484,0434,1744,1775.1%
5Tsieina3,8463,9013,9733,9964.8%
6Canada 23,2883,3583,3503,2944.0%
7Mecsico 13,7073,5013,1853,0013.6%
8Yr Emiradau Arabaidd Unedig (OPEC)2,9452,9483,0462,7953.4%
9Ciwait (OPEC)2,6752,6132,7422,4963.0%
10Feneswela (OPEC) 12,8032,6672,6432,4713.0%
11Norwy 12,7862,5652,4662,3502.8%
12Brasil2,1662,2792,4012,5773.1%
13Irac (OPEC) 32,0082,0942,3852,4002.9%
14Algeria (OPEC)2,1222,1732,1792,1262.6%
15Nigeria (OPEC)2,4432,3522,1692,2112.7%
16Angola (OPEC)1,4351,7692,0141,9482.4%
17Libya (OPEC)1,8091,8451,8751,7892.2%
18Y Deyrnas Gyfunol1,6891,6901,5841,4221.7%
19Casachstan1,3881,4451,4291,5401.9%
20Qatar (OPEC)1,1411,1361,2071,2131.5%
21Indonesia1,1021,0441,0511,0231.2%
22India8548818848771.1%
23Aserbaijan6488508751,0121.2%
24Yr Ariannin8027917927941.0%
25Oman7437147618161.0%
26Maleisia7297037276930.8%
27Yr Aifft6676646316780.8%
28Colombia5445436016860.8%
29Awstralia5525955865880.7%
30Ecwador (OPEC)5365125054850.6%
31Swdan3804664804860.6%
32Syria4494464264000.5%
33Gini Gyhydeddol3864003593460.4%
34Gwlad Tai3343493613390.4%
35Fietnam3623523143460.4%
36Yemen3773613002870.3%
37Denmarc3443142892620.3%
38Gabon2372442482420.3%
39De Affrica2041991951920.2%
40TyrcmenistanNo data1801891980.2%
41Trinidad a Thobago 41811791761740.1%

Ffynhonnell: U.S. Gweinyddiaeth dros Wybodaeth am Ynni, UDA Archifwyd 2008-07-10 yn y Peiriant Wayback.

Nodiadau:1 Anterth cynhyrchu olew cyffredin eisoes wedi pasio yn y wlad hon.

2 Mae olew cyffredin Canada'n lleihau, ond mae olew-dywod Canada (a'r cynnyrch olew) yn codi. O gynnwys olew-dywod yn y ffigyrau, gan Canada mae'r ail ffynhonnell fwyaf o olew, ar ôl Sawdi Arabia.

3 Mae'n parhau'n aelod, ond ni chynhwysir y ffigurau ers 1998.

4 Mae'r 3ydd llyn-olew mwyaf ar y Ddaear yn Nhrinidad a Thobago - yn La Brea yn Ne Trinidad

Treuliad golygu

Yr amgylchedd golygu

Ceir sawl sgil-effaith negyddol o alldynnu, trin a defnyddio petroliwm.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Press Briefing by Ari Fleischer". The White House press release. 24 Mawrth 2003. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2006.

Gweler hefyd golygu