Munro
Munro yw'r enw a roddir ar gopa sydd fwy na 914.4 metr (3,000') uwchben lefel y môr yn yr Alban. Cawsant eu henwi felly ar ôl i'r mynyddwr Syr Hugh Munro (1856 - 1919) wneud arolwg o fynyddoedd mawr yr Alban a chyhoeddi rhestr o'r copaon unigol uchaf (dros 3,000') ar ffurf tablau, wedi'u rhannu'n ardaloedd neu adrannau, yn ei lyfr Munro's Tables (1891).
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3a/Sgurr_fiona.jpg/220px-Sgurr_fiona.jpg)
Uchelgais sawl mynyddwr ers hynny yw dringo i gopa pob un o'r 284 o gopaon sydd ar restr Munro (ddiwygiedig yn 1997); gelwir y sawl sy'n ceisio cyflawni'r gamp honno'n "Munrówr" ("Munroist" yn Saesneg). Y Munro enwocaf yng ngwledydd Prydain ydyw Ben Nevis.
Y Rhestrau cydnabyddiedig[1] golygu
Uchder troedfeddi | Uchder metrau | Amlygrwydd metrau | yr Alban | Cymru a Lloegr |
---|---|---|---|---|
pob un | 150+ | Marilyn | ||
3000+ | 914.4+ | 100+ | HuMP | |
heb ei ddiffinio | Munro, Munro Top | Furth | ||
30+ | Murdo | |||
2500+ ond is na 3000 | 762.0+ ond is na 914.4 | 152.4+ (500tr) | Corbett | |
30.5+ (100tr) ond is na 152.4 | Corbett Top | |||
2000+ ond is na 2500 | 609.6+ ond is na 762.0 | 150+ | Graham | |
30+ ond is na 150 | Graham Top | |||
2000+ | 609.6+ | 30+ | Hewitt | |
15+ | Nuttall | |||
500+ ond is na 609.6 | 30+ | Dewey |
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) Gwefan "Database of British Hills" Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanSiôn Daniel YoungEmmanuelle 6Arbennig:SearchRun Hide FightCarles PuigdemontCategori:RwmaniaWicipedia:Cysylltwch â niEmmanuelle 4Michael MosleyGoogleHotel DesireArbennig:RecentChangesEmmanuelle au 7ème cielPenoza: The Final ChapterArwel GruffyddYr Ail Ryfel BydWicipedia:Ynglŷn â WicipediaSex TapeWicipedia:Gwadiad CyffredinolDafydd JamesXHamsterThis Ain’t i Dream of Jeannie XxxCymraegMethylffenidadWicipedia:CymorthWicipedia:Y CaffiWicipedia:Porth y GymunedSpecial:SearchXxx: State of The UnionThomas NewcomenHairspray (ffilm 2007)Not Jersey Boys Xxx: a Porn MusicalJess DaviesLens (anatomeg)Caligula's SpawnLlygadDisturbia