Mimosa (llong)

llong
(Ailgyfeiriad o Mimosa)

Llong hwylio oedd y Mimosa, Tea Clipper wedi'i haddasu i gludo pobl, efo 447 tunnell o gynhwysedd. Teithiodd tua 160 o Gymry arni i Batagonia yn yr Ariannin (i ran a elwir bellach yn: Wladfa) a hynny yn 1865.

Gyrfa (Y Deyrnas Unedig)
Enw:Mimosa
Perchennog:Robert Vining, William Killey, Lerpwl; Daniel Green
Adeiladwyd:Alexander Hall a'i Feibion, Aberdeen
Cost:£5,916
Lansiwyd:21 Mehefin 1853 [1]
Tynged:Collwyd yn Calabar.[2]
Nodweddion cyffredinol
Pwysau:447 tunnell NM, 540 tunnell OM
Hyd:139.9 tr.
Trawst:25.5 tr.
Dyfnder yr hold:15.6 tr.
Cynllun yr hwyliau:3 hwylbren [1]
Ffotograff o Michael D. Jones, trefnydd y daith. Llun: LlGC

Gadawodd Lerpwl yn Lloegr ar 28 Mai, 1865 a chyrraedd Borth Madryn (heddiw: Puerto Madryn) ym Mae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), Patagonia ar ôl taith o 2 fis, ar 28 Gorffennaf. Er fod y tywydd yn dda yn ystod y daith, roedd bywyd yn galed iawn a bu nifer o blant farw. Ysgrifennodd Joseph Seth Jones, argraffydd o Ddinbych, ddyddiadur ar y llong sydd yn dangos pa mor galed oedd y daith.

Stamp answyddogol i ddathlu canmlwyddiant glanio'r 'Mimosa' (1865-1965)

Ar y dechrau, roedd yn rhaid byw mewn ogofâu clogwyn ar draeth Porth Madryn am amser, ac ar ôl mynd i Rawson roedd yn rhaid dygymod â'r tir gwahanol a hinsawdd dieithr, ac roedd prinder bwyd yn parhau am rai blynyddoedd.

Mae olion yr ogofâu lle roedd y Cymry'n byw yn ystod y cyfnod cyntaf i'w weld erbyn heddiw.

Teithwyr 1865

golygu
EnwNodyn
Austin, Thomas TegaiGanwyd: 1854, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans.
Priodwyd: Mary Elizabeth Williams, 27 Mai 1875, Y Wladfa.
Austin, WilliamGanwyd: 1852, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans.
Priodwyd: Jane Hughes, 19 Mehefin 1873, Rawson, Y Wladfa.
Davies, EvanAberdâr
Davies, AnnAberdâr. Gwraig Evan Davies.
Davies, Margaret AnnAberdâr. Merch Evan & Ann Davies.
Davies, James (Iago Dafydd)Ganwyd: c. 1847, Brynmawr. Bu farw: Chwefror 1866, Y Wladfa.
Davies, John (Ioan Dafydd)Ganwyd: c. 1847, Aberpennar.
Davies, LewisGanwyd: c. 1841, Aberystwyth.
Davies, RachelAberystwyth. Gwraig Lewis Davies.
Davies, Thomas G.Aberystwyth. Mab Rachel & Lewis Davies.
Davies, RobertLlandrillo.
Davies, CatherineLlandrillo. Gwraig Robert Davies.
Davies, WilliamLlandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, HenryLlandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, JohnGanwyd: c. 1864, Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. Bu farw: 27 Mehefin 1865 ar y Mimosa.
Davies, John E.Aberpennar.
Davies, SeliaAberpennar. Gwraig John E. Davies.
Davies, JohnAberpennar. Mab John E. & Selia Davies.
Davies, ThomasAberdâr.
Davies, EleanorGanwyd 1819, Blaenporth.
Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais.
Ail-briododd â Thomas Davies yn Aberdâr yn 1863.
Bu farw: 1884, Y Wladfa.
Davies, DavidAberdâr. Mab Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, HannahAberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, ElizabethAberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, AnnAberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, WilliamLerpwl.
Ellis, JohnLerpwl.
Ellis, ThomasLerpwl.
Ellis, RichardLlanfechain, Llanidloes.
Ellis, FrancesLlanfechain, Llanidloes.
Evans, DanielAberpennar. Priodwyd: Mary Jones
Evans, MaryGwraig Daniel Evans. Ganwyd: 1836, Y Pîl. Bu farw: 1912, Y Wladfa.
Evans, ElizabethMerch Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1860, Aberpennar.
Evans, John DanielMab Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1862, Aberpennar. Bu farw: 6 Mawrth 1943.
Evans, Thomas Pennant (Twmi Dimol)Ganwyd: c. 1836, Pennant Melangell. Criw.
Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 30 Mawrth 1866. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby.
Greene, Thomas William NassauGanwyd: 1844, Kilea, Swydd Kildare, Iwerddon. Criw: Llawfeddyg. Bu farw: Ionawr 1921, Dulyn, Iwerddon.
Harris, ThomasAberpennar.
Harris, SaraAberpennar. Gwraig Thomas Harris.
Harris, WilliamAberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, JohnAberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, ThomasAberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, DanielAberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Hughes, CatherinePenbedw.
Hughes, GriffithGanwyd: c. 1829, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Glöwr.
Hughes, MaryGwraig Griffith Hughes. Ganwyd: c. 1834, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, JaneMerch Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1853, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Priododd â William Austin, 19 Mehefin 1873, Rawson
Hughes, GriffithMab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1856, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, DavidMab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1859, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, JohnYn fyw yn Rhosllannerchrugog. Ganwyd: c. 1835. Bu farw: 13 Mawrth 1866, Y Wladfa
Hughes, ElizabethGwraig John Hughes. Ganwyd: c. 1826. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, William JohnMab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1855. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Myfanwy MaryMerch John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1861. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, John SamuelMab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1863. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, HenryMab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1864, Rhosllannerchrugog. Bu farw 5 Awst 1865, Porth Madryn.
Hughes, Hugh J. (Cadfan)Ganwyd: c. 1825, Sir Fôn. Bu'n byw yn Lerpwl. Saer.
Hughes, ElizabethGwraig Hugh J Hughes (Cadfan). Ganwyd: c. 1820, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, JaneMerch Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1843, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, DavidMab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1854, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, LlewelynMab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: 1861, West Derby, Lerpwl.
Hughes, RichardCaernarfon.
Hughes, WilliamYnys Môn.
Hughes, JaneYnys Môn. Gwraig William Hughes.
Hughes, JaneYnys Môn. Merch William & Jane Hughes.
Hughes, WilliamAbergynolwyn.
Humphreys, MauriceGanwyd: c. 1838, Ganllwyd, Dolgellau. Priodwyd: Elizabeth Harriet Adams, 1864, West Derby, Lerpwl.
Humphreys, Elizabeth HarrietGanwyd: 1844, Cilcain. Gwraig Maurice Humphreys.
Humphreys, LewisGanllwyd, Dolgellau.
Humphreys, JohnGanllwyd, Dolgellau.
Huws, RhydderchManceinion.
Huws, SaraManceinion. Gwraig Rhydderch Huws.
Huws, MeurigManceinion. Gwraig Rhydderch & Sara Huws.
Jenkins, AaronGanwyd: 1 Awst 1831, Sain Ffagan, Caerdydd.
Priodwyd (1): Mary James Davies, 27 Ionawr 1855, Merthyr Tudful.
Priodwyd (2): Rachel Evans, 14 Medi 1860, Merthyr Tudful.
Priodwyd (3): Margaret Jones, 12 Medi 1868, Coednewydd, Y Wladfa.
Bu farw: 17 Mehefin 1879, Chubut, Y Wladfa. Glöwr.
Jenkins, RachelAberpennar. Ail wraig Aaron Jenkins.
Jenkins, JamesAberpennar. Mab Aaron & Rachel Jenkins.
Jenkins, RichardMab Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 5 Mai 1861, Troed-y-rhiw, Merthyr Tudful.
Priodwyd: Mary Evans 22 Mehefin 1895. Bu farw: Esquel, Y Wladfa.
Jenkins, ThomasGanwyd: 3 Rhagfyr 1862, Aberpennar. Bu farw: 11 Mehefin 1865 ar y Mimosa.
Jenkins, RachelMerch Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 26 Mehefin 1865 ar y Mimosa. Bu farw: 22 Medi 1865, Rawson.
Jenkins, WilliamAberpennar.
John, DavidAberpennar.
John, Mary AnnAberdâr.
Jones, EvanGanwyd 1845, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1930, Y Wladfa.
Jones, ThomasGanwyd 1849, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Priododd â Sarah Jones (gweddw James Jones) yn 1870.
Bu farw: 1934, Y Wladfa.
Jones, DavidGanwyd 1852, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1899, Buenos Aires.
Jones, ElizabethGanwyd 1855, Llangoedmor. Merch Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1889, Y Wladfa.
Jones, ElizabethAberpennar.
Jones, AnneBethesda.
Jones, GeorgeLerpwl.
Jones, DavidGanwyd: 1847, Lerpwl. Bu farw: 1868, Y Wladfa.
Jones, JamesGanwyd c. 1838, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd o Aberpennar. Bu farw: 1868, pan suddodd y 'Denby' oddi ar arfordir Y Wladfa.
Jones, SarahGanwyd 1840. Gwraig James Jones. Ymfudodd o Aberpennar.
Ail-briododd â Thomas Jones yn 1870.
Bu farw: 1907, Y Wladfa.
Jones, Mary AnneAberpennar. Merch James & Sarah Jones.
Jones, JamesAberpennar. Mab James & Sarah Jones.
Jones, JohnGanwyd 1805, Y Pîl.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Ail-briododd â Catherine Hughes (Beaumaris) yn 1870.
Bu farw: 1882, Y Wladfa.
Jones, ElizabethGanwyd 1810, Y Pîl.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Bu farw: 1869, Y Wladfa.
Jones, RichardGanwyd 1843, Llangynwyd. Mab John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Jones, AnnGanwyd 1849, Maesteg. Merch John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Priododd Edwyn Cynrig Roberts yn 1866.
Bu farw: 1913, Bethesda.
Jones, MargaretGanwyd 1850, Llangynwyd. Merch John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Priododd ag Aaron Jenkins yn 1868.
Bu farw: 1914, Y Wladfa
Jones, John (jnr)Ganwyd 1834, Y Pîl. Mab John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Jones, MaryAberpennar. Gwraig John Jones.
Jones, Thomas HarriesAberpennar.
Jones, Joseph SethDinbych.
Jones, JoshuaCwmaman, Aberdâr.
Jones, MaryAberpennar.
Jones, StephenCaernarfon. Brawd Lewis Jones.
Jones, William R. (Bedol)Y Bala.
Jones, CatherineY Bala. Gwraig William R. Jones (Bedol).
Jones, Mary AnnY Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, JaneY Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, Richard (Berwyn)Ganwyd: c. 1838, Tregeiriog (teulu o'r ardal Y Berwyn). Symudodd i Efrog Newydd, UDA. Criw - Cyfrifydd.
Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 25 Rhagfyr 1868, Rawson. Bu farw: 25 Rhagfyr 1917.
Lewis, AnneAbergynolwyn.
Lewis, MaryAberpennar.
Matthews, AbrahamAberdâr.
Matthews, GwenllianAberdâr. Gwraig Abraham Matthews.
Matthews, Mary AnnieAberdâr.
Morgan, JohnPen-y-Garn, Aberystwyth.
Nagle, Robert FGanwyd: c. 1833, Abermaw. Criw - Stiward y teithwyr. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby
Owen, AnnLerpwl.
Price, EdwardLerpwl.
Price, MarthaLerpwl. Gwraig Edward Price.
Price, EdwardLerpwl. Mab Edward & Martha Price.
Price, MarthaLerpwl. Merch Edward & Martha Price.
Price, GriffithFfestiniog.
Pritchard, ElizabethCaergybi.
Rhys, James BerryGanwyd: c. 1842. Priodwyd: Grace Roberts, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy.
Rhys, William ThomasTregethin (neu Trefethin, ger Aberpennar?).
Richards, WilliamAberpennar
Roberts, ElizabethBangor.
Roberts, GraceBethesda. Priodwyd: James Berry Rhys, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy.
Roberts, John MoelwynFfestiniog.
Roberts, John,Ffestiniog.
Roberts, MaryFfestiniog. Gwraig John Roberts.
Roberts, MaryFfestiniog. Merch John & Mary Roberts.
Roberts, ThomasFfestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, JohnFfestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, WilliamSeacombe, Lerpwl
Solomon, GriffithGanwyd: c. 1841, Dolbenmaen. Priodwyd: Elizabeth Edwards, Ffestiniog, 1861.
Solomon, ElizabethGwraig Griffith Solomon. Ganwyd: c. 1835, Ffestiniog.
Solomon, ElizabethMerch Griffith & Elizabeth Solomon. Ganwyd: 1864, Ffestiniog. Bu farw: 18 Gorffennaf 1864 ar y Mimosa.
Thomas, John MurrayGanwyd: 1847, Pen-y-bont ar Ogwr. Bu farw: 1924, Gaiman, Y Wladfa.
Thomas, RobertBangor.
Thomas, MaryBangor. Gwraig Robert Thomas.
Thomas, MaryBangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, Catherine JaneBangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, ThomasAberpennar.
Williams, AmosGanwyd: 1841, Llangïan. Criw - Cogydd y deithwyr.
Williams, EleanorGwraig Amos Williams.
Williams, ElizabethMerch Amos & Eleanor Williams.
Williams, DafyddGanwyd: c. 1829, Aberystwyth. Bu farw: 1965, Y Wladfa.
Williams, JaneLerpwl.
Williams, JohnPenbedw. Ganwyd yn Nolwyddelan, yn gysylltiedig â fferm Penrhiw.
Williams, ElizabethPenbedw. Gwraig John Williams.Ganwyd yng Ngwalchmai.
Williams, JohnPenbedw. Mab John & Elizabeth Williams.
Williams, ElizabethPenbedw. Merch John & Elizabeth Williams.
Williams, Watkin WilliamGanwyd: 1832, Abermaw. Yn fyw yn Lerpwl.
Williams, Elizabeth LouisaChwaer Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw, Yn byw yn Lerpwl.
Williams, Watkin WesleyBrawd Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw. Yn byw yn Lerpwl.
Williams, Catherine
Williams, Robert MeirionGanwyd: c. 1814, Llanfairfechan.
Williams, Richard HowellGanwyd: 1847, Llanfairfechan. Mab Robert Meirion Williams. Priodwyd: 15 Mehefin 1867, Porth Madryn
Williams, ThomasAberpennar.
Williams, MaryGanwyd: c. 1810, Aberpennar. Bu farw: 1865. Rawson, Y Wladfa
Williams, WilliamLerpwl.
Wood, ElizabethLerpwl.
EnwNodyn
Roberts, Edwyn CynrigGanwyd: 28 Chwefror 1837, Cilcain. Ymfudodd y teulu i Wisconsin yn 1847.
Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.
Priodwyd: Ann Jones, 19 Ebrill 1866. Dychwelodd i Gymru. Bu farw: 1893, Bethesda.
Jones, LewisGanwyd: 20 Ionawr 1836, Caernarfon. Priodwyd: Ellen Griffith, 1859, Sir Fôn.
Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.
Bu farw 24 Tachwedd 1904, Trelew. Claddodd ym Mynwent Moriah yn y dre. Cyhoeddwr.
Jones, EllenLerpwl. Ganwyd: c. 1840, Niwbwrch. Gwraig Lewis Jones. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, ‘Patagonia’ oedd testun yr awdl a'r enillydd oedd Richard Bryn Williams a ymfudodd o Flaenau Ffestiniog i Drelew, Chubut pan oedd yn saith mlwydd oed. Meddai Geraint Bowen, un o’r beirniaid: “Fel cynganeddwr, fel triniwr geiriau a lluniwr cerdd, y mae'n rhagori ar weddill yr ymgeiswyr.”

Dyma ran ohoni:

Perffaith y gorwel porffor,
Heulwen Mai ar lan y môr;
Hwyl ar gwch fel aur a gwin
Ar y lliwiog Orllewin;
A daw o sisial y dŵr
Heriol lais yr Arloeswr.
Eiddil Fimosa drwy ddylif misoedd
Hwyliai i’w hantur ar wamal wyntoedd.
Ei chragen yn herio’r llydan foroedd,
A rhoddwyd i’w llywio freuddwyd lluoedd:
Anelu o fro’r niwloedd – digariad,
A morio i wlad y mawr oludoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Wilkinson, Susan (2007). Mimosa: The Life and Times of the Ship that Sailed to Patagonia. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. tt. 57–60, 69. ISBN 978-0-86243-952-1. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.
  2. Aberdeen City Council (2010). "Aberdeen Built Ships". Aberdeen Ships, Mimosa. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Joseph Seth Jones, Dyddiadur Mimosa / El diario del Mimosa, gol. Elvey Mac Donald, Cyfres Dyddiaduron Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2002) [Cymraeg a Sbaeneg]
  • Susan Wilkinson, Mimosa: The Life and Times of the Ship that sailed to Patagonia (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
  • Susan Wilkinson, Mimosa's Voyages: Official Logs, Crew List and Masters (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
  • Berwyn's Register, 1865 to 1875. http://www.argbrit.org/Patagonia/Berwynbirths.htm [Saesneg]