Matthew Perry

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Williamstown yn 1969

Roedd Matthew Langford Perry (19 Awst 196928 Hydref 2023)[1][2] yn actor ac ysgrifennwr o'r Unol Daleithiau ac o Ganada. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Chandler Bing yng nghomedi sefyllfa teledu NBC Friends, yn ogystal â chwarae Ron Clark yn y ffilm deledu 2006 The Ron Clark Story.[3] Ynghyd â serennu yn y gyfres Studio 60 on the Sunset Strip, ymddangosodd Perry mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Fools Rush In (1997), The Whole Nine Yards (2000), a 17 Again (2009). Yn 2010, lleisiodd Benny yn y gêm fideo 'chwarae rhan' Fallout: New Vegas.

Matthew Perry
GanwydMatthew Langford Perry Edit this on Wikidata
19 Awst 1969 Edit this on Wikidata
Williamstown, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
o boddi, gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ashbury College
  • The Buckley School
  • Lisgar Collegiate Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, sgriptiwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFriends Edit this on Wikidata
Taldra1.83 metr Edit this on Wikidata
TadJohn Bennett Perry Edit this on Wikidata
MamSuzanne Langford Edit this on Wikidata
PerthnasauKeith Morrison Edit this on Wikidata
Gwobr/auScreen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, TV Guide Award, Huading Awards Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Perry oedd cyd-grëwr, cyd-ysgrifennwr, uwch gynhyrchydd a seren y comedi sefyllfa ABC Mr. Sunshine, a redodd o Chwefror i Ebrill 2011.[4] Yn Awst 2012, dechreuodd Perry serennu fel Ryan King, cyflwynydd chwaraeon ar gomedi sefyllfa NBC, Go On. Canslwyd y gyfres ar 10 Mai 2013. Perry oedd cyd-grëwr a seren comedi sefyllfa CBS The Odd Couple, yn chwarae rôl Oscar Madison. Adnewyddwyd y rhaglen am ail gyfres ar 11 Mai, 2015.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Perry yn Williamstown, Massachusetts. Roedd ei fam, Suzanne Marie Morrison (gynt Langford), yn newyddiadurwraig o Ganada ac yn gyn-ysgrifenyddes y wasg i Brif Weinidog Canada Pierre Trudeau. Mae ei dad, John Bennett Perry (ganed 1941), yn actor Americanaidd a chyn-fodel. Ysgarodd rhieni Perry cyn iddo droi'n un flwydd oed, ac aeth ei fam yn ei blaen i briodi Keith Morrison, newyddiadurwr darlledu. Magwyd Perry gan ei fam yn Ottawa, Ontario, a mynychodd Ysgol Gyhoeddus Rockcliffe Park a Choleg Ashbury. Fel plentyn, roedd yn chwaraewr tenis llwyddiannus.

Gyrfa golygu

Ar ôl symud o Ottawa i Los Angeles i ddilyn gyrfa actio, mynychodd Perry The Buckley School yn Sherman Oaks. Pan yn Buckley, perfformiodd Perry fel George Gibbs yn Our Town, yn ogystal ag ymddangos yn The Miracle Worker a The Sound of Music, yn derbyn canmoliaeth am ei berfformiadau. Yn ei flwyddyn olaf, cynlluniwyd cynhyrchiad o The Elephant Man gan y cyfarwyddwr Tim Hillman gyda'r syniad o gastio Perry fel John Merrick ynghyd â Vanessa Smith a seren Les Miserables y dyfodol, Lisa Capps. Tynnodd Perry yn ôl o'r cynhyrchiad ar ôl iddo gael ei gastio yn A Night in the Life of Jimmy Reardon gyda River Pheonix, yn dod â'i yrfa actio ysgol uwchradd i ben. Hefyd yn ystod ei ddyddiau yn yr ysgol uwchradd, daeth Perry yn berfformiwr comedi improv yn yr LA Connection yn Sherman Oaks. Dechreuodd Perry actio'n broffesiynol yn 18 mlwydd oed.

Wedi ymddangosiadau gwadd mewn rhaglenni teledu yng nghanol yr 1980au, ei fwriad oedd ymrestru ym Mhrifysgol De Califfornia, ond cyn iddo wneud hyn, cynigiwyd y brif rôl o Chazz Russell yn Second Chance i Perry, yn ei gynorthwyo i ddod yn fwy gweladwy ar y sîn actio. Yn wreiddiol, serennodd Perry gyda Kiel Martin pan ddarlledwyd y gyfres am y tro cyntaf yn 1987, ond ar ôl 13 o benodau, newidiwyd y fformat, gyda Second Chance yn troi'n Boys Will Be Boys, a daeth cymeriad Perry yn fwy amlwg gyda'r plot yn symud i ganolbwyntio ar anturiaethau Chazz a'i ffrindiau yn eu harddegau. Er gwaethaf y newidiadau, fe'i pharodd am ddim ond un gyfres. Ar ôl iddi orffen, arhosodd Perry yn Los Angeles yn gwneud ymddangosiad gwadd ar y rhaglen deledu Growing Pains, yn chwarae cariad Carol sy'n marw yn yr ysbyty o anafiadau wedi damwain gar.

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilmiau

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1988A Night in the Life of Jimmy ReardonFred Roberts
Dance 'til DawnRogerFfilm deledu
1989She's Out of ControlTimothy
1990Call me AnnaDesi Arnaz, Jr.Ffilm deledu
1993Deadly RelationsGeorge WesterfieldFfilm deledu
1994Getting InRandall Burns
Parallell LivesWillie MorrisonFfilm deledu
1997Fools Rush InAlex Whitman
1998Almost HeroesLeslie Edwards
1999Three to TangoOscar Novak
2000The Whole Nine YardsNicholas "Oz" Oseransky
Disney's The KidMr. VivianHeb gydnabyddiaeth
2002Serving SaraJoe Tyler
2004The Whole Ten YardsNicholas "Oz" Oseranksy
2005Hoosiers II: Senior YearCoach Norman Dale Jr.Ffilm fer
2006The Ron Clark StoryRon ClarkFfilm deledu
2007NumbHudsonHefyd yn uwch gynhyrchydd
2008Birds of AmericaMorrie Tanager
200917 AgainMike O'Donnell (37 mlwydd oed)

Teledu

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1979240-RobertArthurPennod: "Bank Job"
1983Not Necessarily NewsBobPennod: "Audrie in Love"
1985Charles in ChargeEd StanleyPennod: "The Wrong Guy"
1986Silver SpoonsDaveyPennod: "Rick Moves Out"
1987-1988Second ChanceChazz RussellPrif gast; 21 pennod
1988Just the Ten of UsEdPennod: "The Dinner Test"
Highway to HeavenDavid Hastings2 bennod
1989Growing PainsSandy3 pennod
Empty NestBill (18 mlwydd oed)Pennod: "A Life in the Day"
1990SydneyBilly KellsPrif gast; 13 o benodau
Who's the Boss?Benjamin DawsonPennod: "Roomies"
1991Beverly Hills, 90210Roger AzarianPennod: "April is the Cruelest Month"
1992SibsPennod: "What Makes Lily Run?"
Dream OnAlex FarmerPennod: "To the Moon, Alex!"
1993Home FreeMatt BaileyPrif gast; 13 o benodau
1994-2004FriendsChandler BingPrif gast; 236 o benodau
1995The John Larroquette ShowStevenPennod: "Rachel Redux"
Caroline in the CityChandler BingPennod: "Caroline and the Folks"
1997Saturday Night LiveEi hunanCyflwynydd; pennod: "Matthew Perry/Oasis"
2001The SimpsonsLlais Matthew Perry Ultrahouse 3000Pennod: "Treehouse of Horror XII"
2002Ally McBealTodd Merrick2 bennod
2003The West WingJoe Quincy3 pennod
2004ScrubsMurray MarksPennod: "My Unicorn"; hefyd yn gyfarwyddwr
2006-2007Studio 60 on the Sunset StripMatt AlbiePrif gast; 22 o benodau
2011Mr. SunshineBen DonovanPrif gast a chyd-grewr; 13 o benodau
Childrens HospitalEi hunanPennod: "The Black Doctor"
2012-2013The Good WifeMike Kresteva4 pennod (1 heb gydnabyddiaeth)
Go OnRyan KingPrif gast; 22 o benodau
2013Hollywood Game NightEi hunanPennod: "The One with the Friends"
2014Cougar TownSamPennod: "Like a Diamond"
The Dog ThrowerY dyn carismataidd1 bennod
2015Web TherapyTyler Bishop (neu Tyler Levin)Pennod: "Lies and Alibis"
2015-2017The Odd CoupleOscar MadisonPrif gast; hefyd yn ysgrifennwr ac uwch gynhyrchydd; 12 o benodau
2017The Good FightMike KrestevaRhan achlysurol; 3 pennod
2017The Kennedys: After CamelotTed KennedyCyfres deledu fer; 4 pennod; hefyd yn uwch gynhyrchydd
2021Friends: The ReunionEi hunRhaglen arbennig HBO Max; hefyd yn uwch gynhyrchydd

Cyfeiriadau golygu

  1. "Matthew Perry". TVGuide.com. Cyrchwyd 11 Awst 2015.
  2. France, Lisa (2023-10-29). "Matthew Perry, 'Friends' star, dead at 54". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  3. "Matthew Perry - Awards & Nominations - MSN Movies". Movies.msn.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-14. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2011.
  4. Gorman, Bill (December 6, 2010). "ABC's 'Mr. Sunshine' Will Bump 'Cougar Town'; Plus Dates For 'Happy Endings' & 'Off The Map'". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-08. Cyrchwyd 4 Mawrth 2011.