Llyfrau ab Owen

Llyfrau bychain wedi'u rhwymo mewn llian glas yw Llyfrau ab Owen. Fe'u cyhoeddwyd gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, rhwng 1906 a 1914. Cymysgir yn aml rhwng Llyfrau ab Owen a Chyfres y Fil gan eu bod yr un maint a chanddynt yr un rhwymiad.

Llyfrau ab Owen
Enghraifft o'r canlynolcyfres o lyfrau Edit this on Wikidata
Daeth i ben1914 Edit this on Wikidata
GolygyddOwen Morgan Edwards Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1906 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCaniadau Buddug Edit this on Wikidata

Nid cyfres mo Llyfrau ab Owen; yn hytrach, llyfrau annibynnol sy'n ymdrin yn bennaf â Chymru ac enwogion Cymru yn hanesyddol, bywgraffiadol a ffeithiol. Cafwyd rhai llyfrau yn ymdrin ag agweddau y tu hwnt i Gymru, fel India'r Gorllewin.

Golygydd y llyfrau oedd yr addysgwr Owen Morgan Edwards o Lanuwchllyn. Roedd gan y golygydd fab o'r enw Owen ab Owen a fu farw'n ifanc, ac enw ei fab arall oedd Ifan ab Owen Edwards, sef sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.

Cafwyd cyfraniadau i'r llyfrau gan Garneddog, Richard Morgan, Winnie Parry, Elfyn, Y Parch. Richard Roberts, Y Parch. O. Gaianydd Williams, O. Williamson, Y Parch. T. Mordaf Pierce, Y Parch D. Cunllo Davies a'r golygydd.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Gwreichion y Diwygiadau, Carneddog (1905)
  • Clych Adgof - Penodau yn hanes fy addysg, Owen Edwards (1906)[1]
  • Tro trwy'r wig, Richard Morgan, Cyfrol 1 (1906)
  • Cerrig y Rhyd, Winnie Parry (1907)
  • Capel Ulo, Elwyn (1907)
  • Tro trwy'r Gogledd, Owen Edwards (1907)[2]
  • Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol 1 (1907)
  • Dafydd Jones o Drefriw, Y Parch. O. Gaiannydd Williams (1907)
  • Tro i'r De, Owen Edwards (1907)[3]
  • Gwaith Hugh Jones, Maesglasau:
i: Cydymaith yr Hwsmon (1774)
ii: Hymnau newyddion (1797, 1907)
  • Trwy India'r Gorllewin, Y Parch. D.Cunllo Davies (1908)[4]
  • Gwaith yr Hen Ficer, Rhys Prichard (1908)
  • Ceris y Pwll, Owen Williamson, Dwyran, Môn (1908)[5]
  • Robert Owen, Apostol Llafur Cyfrol II (1910)
  • Caniadau Buddug wedi eu casglu a'u dethol gan ei phriod (1911)[6]
  • Brut y Tywysogion. Cyfrol I (1913)
  • Cyfrinach y Dwyrain Y Parch. D.Cunllo Davies (1914)
  • Dr. W.Owen Pughe gan y Parch. T.Mordaf Pierce (1914)
  • Gwaith Iolo Goch, Iolo Goch (1915)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Edwards, Owen Morgan (1906). Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg . Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
  2. Tro Trwy'r Gogledd; Edwards,Owen Morgan;Llyfrau Ab Owen, Caernarfon;1907
  3. Edwards, Owen Morgan (1907). Tro i'r De. Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
  4. Davies, David Cunllo (1908). Trwy India'r Gorllewin. Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
  5. Williamson, Owen (1908). Ceris y Pwll . Caernarfon: Llyfrau ab Owen.
  6. Prichard (Buddug), Catherine (1911). Pryse, Robert John (gol.). Caniadau Buddug . Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.