Lemon

ffrwyth
Lemon
Citrus x lemon
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Ddim wedi'i restru:Rosidau
Urdd:Sapindales
Teulu:Rutaceae
Genws:Citrus
Rhywogaeth:C. x limon
Enw deuenwol
C. x limon
(L.) Burm.f.

Ffrwyth sitrws yw lemon neu lemwn (Citrus × limon). Mae'n tyfu mewn hinsawdd gynnes. Fe'i tyfir yn bennaf am y sudd, er bod gweddill y ffrwyth yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio. Mae tua 5% o asid citrig yn y sudd, sy'n rhoi pH o 2 i 3.

Nid oes sicrwydd o ble y daeth y lemon, ond credir bod y goeden yn tyfu'n wyllt yn India a China. Roedd y lemon wedi cyrraedd de Ewrop erbyn 1g OC.

Gwledydd sy'n cynhyrchu lemonau (2004)[1]
 Rhif Gwlad Maint 
( miliwn tunnell)
 Rhif Gwlad Maint 
(miliwn tunnell)
   1Mecsico   1.825   9Yr Eidal   0.550
   2India   1.420   10Twrci   0.535
   3Iran   1.100   11Yr Aifft   0.300
   4Sbaen   1.050   12Periw   0.255
   5Yr Ariannin   0.950   13De Affrica   0.210
   6Brasil   0.950   14Tsile   0.150
   7Unol Daleithiau   0.732   15Gwatemala   0.143
   8China   0.618   16Gwlad Groeg   0.110

Cyfeiriadau golygu

  1. Handelsblatt Die Welt in Zahlen (2005)
Dau lemon.
Chwiliwch am lemon
yn Wiciadur.