Iwan Rheon

actor a chyfansoddwr Cymreig Cymraeg a aned ym 1985

Actor ffilm a theledu, canwr a chyfansoddwr o Gymro yw Iwan Rheon (ganed 13 Mai 1985), sydd wedi ennill gwobr Olivier, a graddio o London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA). Mae e'n un o brif actorion y gyfres Game of Thrones.

Iwan Rheon
Ganwyd13 Mai 1985 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cyfansoddwr, gitarydd, canwr-gyfansoddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddullindie folk Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier am y Perfformioad Wrth-Gefn Gorau mewn miwsical Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://iwanrheon.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed ef yng Nghaerfyrddin yn fab i Einir a Rheon Tomos ac mae ganddo frawd hŷn, sef Aled. Symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn bump oed a mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf lle gymerodd rhan mewn cynyrchiadau drama'r ysgol, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dechreuodd actio o ddifrif pan oedd yn 17 oed, gan fynd i astudio yn LAMDA.[1]

Gyrfa golygu

Actio golygu

Iwan yn 2011

Ymunodd Rheon â chast y ddrama sebon Gymraeg, Pobol y Cwm, pan oedd yn 17 oed, gan chwarae rhan Macsen White, ond gadawodd y rhaglen yn ddiweddarach i astudio yn LAMDA. Daeth ei rôl sylweddol gyntaf ar y llwyfan yn Eight Miles High yn 2008 yn y Royal Court Theatre, Lerpwl.

Cafodd ei gastio i chwarae rhan Moritz Steifel yng nghynhyrchiad 2008 y ddrama gerdd roc Spring Awakening yn Llundain, a enillodd wobr Tony. Dechreuodd chwarae'r rôl yn Ionawr 2009 yn Lyric Hammersmith, a parhaodd pan symudwyd y sioe i Theatr Novello, nes i'r sioe ddod i ben ym Mai 2009, pum mis yn gynharach na'r disgwyl. Enwyd ef fel yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd ar gyfer gwobrau What's On Stage. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Laurence Olivier yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd yn 2010.

Yn syth wedi Spring Awakening, cafodd Rheon ei gastio ar gyfer cyfres deledu E4, Misfits, rhaglen a enillodd BAFTA. Disgrifwyd y sioe gan 247 Magazine fel "cymysgedd o Skins a Heroes". Mae'n chwarae cymeriad swil a nerfus Simon Bellamy sy'n ennill y gallu i fod yn anweledig.

Mae hefyd wedi ymddangos fel gwestai ar rhaglen gomedi Simon Amstell, Grandma's House. Ymddangosodd hefyd ym mhenod olaf Secret Diary of a Call Girl yn 2011.

Cerddoriaeth golygu

Mae hefyd yn ysgrifennu a chanu caneuon ers 16 oed. Ef oedd prif lais y grŵp The Convictions, hyd iddo adael y band er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa actio. Rhyddhaodd EP Tongue Tied yn 2010, a recordiwyd yn RAK Studios, Llundain,[2] wedi ei gynhyrchu gan Jonathan Quarmby a Kevin Bacon.[3] Dychwelodd i RAK Studios ym mis Ebrill 2011, er mwyn recordio ei ail EP, Changing Times, wedi ei gynhyrchu unwaith eto gan Quarmby a Bacon, ond y tro hwn gyda 3 cerddor cefndirol. Rhyddhawyd Changing Times ar 10 Hydref 2011.[4]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm golygu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2011ResistanceGeorge
Wild BillPill
2012Back of Beyond, TheThe Back of BeyondPetesyFfilm fer
The Rise (a elwid Wasteland yng Ngogledd America)Dempsey
2013LibertadorDaniel O'Leary
2015Charlotte's SongRandall
2016Alien Invasion: S.U.M.1S.U.M.1
2017Daisy WintersDoug
2018Hurricane: 303 Squadron (neu Mission of Honor yn yr UDA)Jan Zumbach
2019Berlin, I Love YouGregPennod: "Embassy"
The DirtMick Mars
FourLlofruddFfilm byr
2020The Existential HotlineFredFfilm byr
2021The Toll (neu Tollbooth yn yr UDA)Dom
BarbariansAdam
2022The Magic FlutePapageno

Teledu golygu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2002–2004Pobol y CwmMacsen White
2009–2011MisfitsSimon Bellamy21 pennod
2010Coming UpLuka1 pennod
2010–2012Grandma's HouseBen Theodore2 bennod
2011Secret Diary of a Call GirlLewis1 pennod
2013–2016Game of ThronesRamsay Bolton20 pennod
2013–2016ViciousAsh Weston14 pennod
2014Our GirlDylan "Smurf" Smith5 pennod
2015ResidueJonas Flak3 pennod
2016The Green HollowSam Knight
2017Urban MythsAdolf Hitler1 pennod
RivieraAdam Clios10 pennod
InhumansMaximus8 pennod
Family GuyGeorge Harrison (llais), John Lennon (llais)Pennod: "Petey IV"
2019PTSD: The War in My HeadAdroddwr
2020A Special SchoolAdroddwr
The Snow SpiderLlais Gwydion
2021American GodsLiam Doyle
Y TywysogY Tywysog Wiliam (llais)
A Christmas Number OneBlake Cutter
2022Y GolauJoe Pritchard

Gemau fideo golygu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2014–2015Game of ThronesRamsay SnowLlais a delwedd

Llwyfan golygu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2008Eight Miles HighAlRoyal Court Theatre
2009Spring AwakeningMoritz StiefelLyric Hammersmith
2010The Devil Inside HimHuw ProsserNational Theatre Wales
2011Remembrance DayLyoshaRoyal Court Theatre

Radio golygu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2013DarksideThe BoyLlais

Disgyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ben Bryant (11 Mai 2010). Iwan Rheon Interview. Buzz.
  2.  Live Music. The Bedford (29 Rhagfyr 2010).
  3.  BACON & QUARMBY. Alan Cowderoy Management. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
  4.  Iwan Rheon. The Monto. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.

Dolenni allanol golygu