Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.

Plant yn yr eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Bala 1954
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin, 1967.

Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Lleoliadau Eisteddfodau'r Gorffennol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen yn 1929.

Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.

1930au

golygu
BlwyddynLleoliad
1930Caernarfon
1931Abertawe
1932Machynlleth
1933Caerffili
1934Hen Golwyn
1935Caerfyrddin
1936Blaenau Ffestiniog
1937Gwauncaegurwen
1938Aberystwyth
1939Llanelli

1940au

golygu
BlwyddynLleoliad
1940Y Rhyl
1941-45Bwlch yn ystod Yr Ail Ryfel Byd
1946Corwen
1947Treorci
1948Llangefni
1949Pontarddulais

1950au

golygu
BlwyddynLleoliad
1950Wrecsam
1951Abergwaun
1952Machynlleth
1953Maesteg
1954Y Bala
1955Abertridwr
1956Caernarfon
1957Rhydaman
1958Yr Wyddgrug
1959Llanbedr Pont Steffan

1960au

golygu
BlwyddynLleoliad
1960Dolgellau
1961Aberdâr
1962Rhuthun
1963Brynaman
1964Porthmadog
1965Caerdydd
1966Caergybi
1967Caerfyrddin
1968Llanrwst
1969Aberystwyth

1970au

golygu
BlwyddynLleoliad
1970Llanidloes
1971Abertawe
1972Y Bala
1973Pontypridd
1974Y Rhyl
1975Llanelli
1976Porthaethwy
1977Y Barri
1978Llanelwedd
1979Maesteg

1980au

golygu
BlwyddynLleoliad
1980Abergele
1981Castellnewydd Emlyn
1982Pwllheli
1983Aberafan
1984Yr Wyddgrug
1985Caerdydd
1986Dyffryn Ogwen
1987Merthyr Tudful
1988Maldwyn
1989Cwm Gwendraeth

1990au

golygu
BlwyddynLleoliad
1990Dyffryn Nantlle
1991Taf Elai (Tonyrefail)
1992Rhuthun
1993Gorseinon
1994Meirionnydd (Dolgellau)
1995Bro'r Preseli (Boncath)[2]
1996Bro Maelor (Wrecsam)
1997Islwyn
1998Llŷn ac Eifionydd (Penyberth ger Pwllheli)
1999Llanbedr Pont Steffan
BlwyddynLleoliad
2000Bro Conwy
2001Gohiriwyd o achos clefyd traed a'r genau. Cynhaliwyd Gŵyl yr Urdd, 2001
2002Caerdydd a'r Fro
2003Tawe, Nedd ac Afan ym Mharc Margam
2004Ynys Môn - Llangefni
2005Canolfan y Mileniwm - Caerdydd
2006Sir Ddinbych - Rhuthun
2007Sir Gâr[3]
2008Sir Conwy, yn Llandudno
2009Bae Caerdydd

2010au

golygu
BlwyddynLleoliad
2010Llannerch Aeron[4]
2011Abertawe[5]
2012Eryri (Glynllifon ger Caernarfon)[6]
2013Sir Benfro (Boncath)[2]
2014Meirionnydd (Y Bala)
2015Caerffili a'r Cylch
2016Sir y Fflint
2017Pen-y-Bont, Taf, ac Elai
2018Brycheiniog a Maesyfed (Llanelwedd)
2019Caerdydd a'r Fro

2020au

golygu
BlwyddynLleoliad
2020Gohiriwyd oherwydd pandemig COVID-19.

Cynhaliwyd fersiwn ar-lein (Eisteddfod T) yn 2020 a 2021.[7][8]

2021
2022Sir Ddinbych
2023Sir Gaerfyrddin (Llanymddyfri)
2024Maldwyn (Fferm Mathrafal, ger Meifod)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Llywodraeth Cymru[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 "Best of luck to everyone at the Urdd". Rags to Riches for schools. 27-05-2013. Cyrchwyd 31-05-2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  3. "Eisteddfod yr Urdd 200y". BBC Cymru Fyw. 2007.
  4. Llanerchaeron estate to host Urdd Eisteddfod BBC, 29 April 2010
  5. Eisteddfod 2011 Swansea at Urdd Gobaith Cymru
  6. Eisteddfod Eryri 2012 at Urdd Gobaith Cymru
  7. "Llwyddiant Eisteddfod T yn 'arloesol a hanesyddol'". BBC Cymru Fyw. 2020-05-30. Cyrchwyd 2021-02-11.
  8. "Yr Urdd yn cyhoeddi trefniadau Eisteddfod T 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-02-11. Cyrchwyd 2021-02-11.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu