Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007 ar safle Pentrehobyn ar gyrion yr Wyddgrug, Sir y Fflint, rhwng 4 a 11 Awst 2007.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
 ← BlaenorolNesaf →
LleoliadPentrehobyn ar gyrion yr Wyddgrug
Cynhaliwyd4-11 Awst 2007
ArchdderwyddSelwyn Iolen
Daliwr y cleddyfRobin o Fôn
CadeiryddAled Lloyd Davies
Nifer yr ymwelwyr154,944
Enillydd y GoronTudur Dylan Jones
Enillydd y GadairT. James Jones
Gwobr Daniel OwenTony Bianchi
Gwobr Goffa David EllisRobyn Lyn Evans
Gwobr Goffa Llwyd o’r BrynRhian Evans
Gwobr Goffa Osborne RobertsLlio Eleri Evans
Gwobr Richard BurtonGwion Aled Williams
Y Fedal RyddiaithMary Annes Payne
Medal T.H. Parry-WilliamsElsie Nicholas
Tlws Dysgwr y FlwyddynJulie MacMillan
Tlws y CerddorWyn Pearson
Ysgoloriaeth W. Towyn RobertsGwawr Edwards
Medal Aur am Gelfyddyd GainEmrys Williams
Medal Aur am Grefft a DylunioNeb yn deilwng
Gwobr Ivor DaviesJack Burton / Carwyn Evans
Gwobr Dewis y BoblKatie Allen
Ysgoloriaeth yr Artist IfancJack Burton
Medal Aur mewn PensaernïaethPenseiri Loyn & Co
Ysgoloriaeth PensaernïaethRhian Barker
Medal Gwyddoniaeth a ThechnolegIolo Wyn Williams
Maes y Steddfod, 2007

Hon oedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i'w chyllido yn rhannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan drefniant newydd yn hytrach na bod yr Eisteddfod yn disgwyl cyfraniad sylweddol gan y Cyngor Sir lleol. Mae'n debyg i 154,944 o bobl ymweld a'r Eisteddfod hon o gymharu âg 155,437 yn Abertawe y llynedd, ac fe wnaeth yr eisteddfod elw, er gwaethaf y gofid ychydig cyn yr eisteddfod y byddai y tywydd drwg gafwyd yn golygu colled. Fe wnaethpwyd ar un adeg ystyried gohirio'r Eisteddfod oherwydd cyflwr y cae.

Derbyniodd yr Eisteddfod Genedlaethol gais swyddogol oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl i gynnal eisteddfod 2007 yn y ddinas.[1] Roedd hyn yn bennaf oherwydd mai Lerpwl yw Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008.[2][3] Profodd y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol y tu allan i Gymru am y tro cyntaf ers 1929 (hefyd yn Lerpwl) yn ddadleuol iawn, gydag anghytuno o fewn cymdeithasau Cymry Cymraeg Lerpwl yn ogystal ag o fewn Cymru.[4][5][6][7]

CystadleuaethTeitl y DarnFfugenwEnw
Prif Gystadlaethau
Y GadairFfin"Un o Ddeuawd"T. James Jones (Jim Parc Nest)
Y Goroncopaon"Gwyn"Tudur Dylan Jones
Y Fedal RyddiaithRhodd Mam"Dol Bapur"Mary Annes Payne
Gwobr Goffa Daniel OwenPryfeta"Chwilen"Tony Bianchi
Tlws y CerddorHunanbortread"Jelsam Wise"Wyn Pearson

Y Goron

golygu
Clawr Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2007

Doedd y beirniaid ddim yn unfrydol yn eu dyfarniad i goroni Tudur Dylan Jones gyda Gwyn Thomas yn anghytuno gyda Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.Nesta Wyn Jones yn unig ddewisodd gerdd Tudur Dylan, gyda Gerwyn Williams yn rhoi ei awdl yn gydradd gydag un arall a Gwyn Thomas am gadeirio un arall eto.

Gwobr Goffa Daniel Owen

golygu

Enillwyd y wobr gan Tony Bianchi am ei nofel Pryfeta. Doedd y beirniaid ddim yn gytun: roedd Robat Arwyn ac Annes Glynn am wobrwyo Pryfeta ondHarri Pritchard Jones o blaid nofel arall. Roedd ef yn teimlo fod gormod o ddisgrifiadau manwl o bryfetach a drychfilod, ac hynny yn tarfu ar y stori.

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu
  • Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, ISBN 978-1-84323-894-2

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.