Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Comisiwn annibynnol a sefydlwyd ym mis Hydref 2011 yw'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a adnabyddir hefyd fel Y Comisiwn Silk.[1]

Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynolcomisiwn llywodraethol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Gwaith y Comisiwn golygu

Mae dwy ran i waith y comisiwn:

Rhan 1 (cwblhawyd ym mis Hydref 2012)

Adolygu pwerau ariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt trethiant a benthyca. Yn benodol: “Adolygu’r dadleuon o blaid datganoli pwerau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n gyson ag amcanion cyllidol y Deyrnas Unedig ac yn debygol o dderbyn cefnogaeth eang.”

Rhan 2 (cwblhawyd yng ngwanwyn 2014)

Adolygu pwerau anariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Aelodaeth golygu

Penodwyd Paul Silk yn gadeirydd y Comisiwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan. Yn ogystal â hyn, penodwyd dau aelod arall a oedd yn annibynnol ar bleidiau gwleidyddol, Dyfrig John CBE a’r Athro Noel Lloyd CBE.Enwebwyd aelod i’r Comisiwn hefyd gan bob un o’r pleidiau gwleidyddol yng NghynulliadCenedlaethol Cymru: Nick Bourne, a enwebwyd gan Geidwadwyr Cymru; Sue Essex, (Llafur Cymru); Dr Eurfyl ap Gwilym, (Plaid Cymru); a Rob Humphreys, (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).

Barn y Bobl golygu

Dangosodd canlyniadau arolwg barn Dydd Gŵyl Dewi fod 62% o bobl yncredu y dylai Llywodraeth Cymru allu amrywio rhai trethi er mwyn amrywio gwariant.Roeddent hefyd yn dangos bod 66% o blaid rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru fenthycaarian i’w wario ar brosiectau cyfalaf fel adeiladu ffyrdd ac ysbytai

Argymhelliadau golygu

Gwnaethpwyd 33 argymhelliad yn dilyn yr adolygiad ar bwerau ariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

A.1. Nid yw’r trefniadau ariannu presennol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag angheniondemocratiaeth aeddfed ac maent yn anarferol yn y cyd-destun rhyngwladol. Y model ariannulle y mae grant bloc a rhai trethi datganoledig yw’r un gorau i wireddu egwyddorion da ar gyferariannu Llywodraeth Cymru. Felly rydym yn argymell bod rhan o’r gyllideb i Lywodraeth Cymruyn cael ei hariannu o drethi datganoledig sydd o dan ei rheolaeth.

A.2. Bod ardrethi busnes yn cael eu datganoli’n llwyr, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru aLlywodraeth y DU yn cytuno ar y manylion ac yn asesu unrhyw risgiau cysylltiedig.

A.3. Bod Treth Tir y Doll Stamp yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod GweinidogionCymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhanbenodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru aLlywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i natur gyfnewidiol y derbyniadau.

A.4. Bod treth tirlenwi yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod Gweinidogion Cymru yncael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’rgrant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU arôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r gostyngiad yn y sylfaen drethadwy.

A.5. Yn amodol ar ganlyniad trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Chomisiwn yr UE arfaterion sy’n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, fod yr ardoll agregau yn cael ei datganoli iLywodraeth Cymru, a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y drethyng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerthrhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r gostyngiad yn ysylfaen drethadwy.

A.6. Bod y Doll Teithwyr Awyr yn cael ei datganoli ar gyfer teithiau awyrhir uniongyrchol yn gyntaf ac yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cynnwys datganoli hollgyfraddau’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn ei gwaith ar drethi hedfan yn y dyfodol, a ddylaigynnwys ystyriaeth i’r achos mwy cyffredinol o blaid gwahaniaethu rhanbarthol ar gyfer y DollTeithwyr Awyr neu godi tâl am dagfeydd mewn meysydd awyr. Arghymellwyd bod y materhwn yn cael ei ystyried yng nghyd-destun adolygiad Davies ac unrhyw ddatblygiadau yn yrAlban a Gogledd Iwerddon. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundebar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’rrhagolygon am refeniw o’r dreth yng Nghymru.

A.7. Nid ddylai treth tanwydd gael ei datganoli. O ystyried y profiad o’r cynllun peilot ad-daliad treth tanwydd, fod Llywodraeth y DU yn asesu’r posibilrwydd o ymestyn y cynllun i rai ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, ar yr amod bod yr UE yn cytuno ar hynny.

A.8. Ni ddylai y trethi canlynol yn cael eu datganoli:•tollau cartref a threth ar alcohol;•Treth Car;•Treth ar Enillion Cyfalaf;•Treth ar Bremiymau Yswiriant;•toll stamp ar gyfranddaliadau;•Treth Etifeddiant;•trethi ar fetio a hapchwarae; ac•Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

A.9. Y bydd Llywodraeth y DU, wrth ystyried cyflwyno trethi newydd mewnmeysydd polisi sydd wedi’u datganoli, yn rhagdybio o blaid datganoli pwerau dros y dreth iLywodraeth Cymru.

A.10. Lle nad yw trethi a gostyngiadau i’r DU gyfan wedi’u datganoli, arghymellir:(a)bod Llywodraeth y DU yn cadw dan sylw y cyfle i gyflwyno gostyngiadau treth a fyddai’nhelpu i hybu economi Cymru mewn ffordd gosteffeithiol a fforddiadwy o dan gyfyngiadau’rUE ar gymorth gwladwriaethol; ac(b)os bydd Llywodraeth y DU yn newid y trothwyon a lwfansau neu gyfraddau ar gyfer trethsydd heb ei datganoli, sy’n cynnwys elfen o dargedu daearyddol (er enghraifft, lwfansaucyfalaf mewn Ardaloedd Menter mewn ardaloedd penodol), fod asesiad yn cael ei wneuddrwy ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru allu ariannudarpariaeth ychwanegol.

A.11. Bod pŵer yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu gyda chytundebLlywodraeth y DU ym mhob achos i gyflwyno trethi penodedig ac unrhyw gredydau trethcysylltiedig yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru gadw’r refeniw o drethi o’r rhain hebddidynnu rhan o’r grant bloc. Dylai Llywodraeth y DU fod yn hyblyg wrth ddelio ag unrhyw gaisam y trethi hyn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

A.12. Ni argymhellir datganoli treth gorfforaeth i Gymru. Fodd bynnag, pe byddaiLlywodraeth y DU yn cytuno i ddatganoli treth gorfforaeth i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon,rydym yn argymell bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru.

A.13. Dylid creu modd i gynnig y lwfansau cyfalaf uwch mewn mwy o ardaloeddmenter yng Nghymru yn unol â rheolau ar gymorth gwladwriaethol ac ar yr amod bodLlywodraeth Cymru yn talu’r gost gynyddrannol.

A.14. Mae amrywio cyfraddau TAW o fewn aelod-wladwriaeth wedi’i wahardd gan gyfraithyr UE. Felly ni ellir ystyried datganoli TAW, er ein bod yn cydnabod boddadleuon eraill hefyd yn erbyn datganoli TAW.Gellid ystyried bod y gallu i wneud addasiadau mewn cyllidebau datganoledig nad oeddent ynganlyniad i weithredoedd Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i’r amcan o wella atebolrwydd.Oherwydd hyn, nid ydym yn argymell aseinio derbyniadau TAW

A.15. Ni argymhellir bod Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu datganoli ar eu ffurfbresennol. Mae cyswllt hanfodol rhwng cyfraniadau a’r Gronfa Yswiriant Gwladol sy’n ariannubudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Argymellir bod Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth bellach i addasiadau sy’n gwahaniaethu’n ddaearyddol, fel gwyliau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, er mwyn hybu’r farchnad lafur yn unol â’r rheolau ar gymorth gwladwriaethol. Dylai Llywodraeth Cymru allu ariannu addasiadau ychwanegol o’r fath sy’n gwahaniaethu’n rhanbarthol yng Nghymru os ydynt yn gyson ag ymrwymiadau i’r UE a system nawdd cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

A.16. Argymhellir bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu’r derbyniadauo dreth incwm. Dylai Llywodraeth Cymru fod â’r cyfrifoldeb dros osod cyfraddau treth incwmyng Nghymru ac rydym yn argymell y pecyn canlynol:a. na fydd treth incwm ar gynilion a dosbarthiadau’n cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru;b. y bydd cyfraddau treth incwm newydd i Gymru, a gaiff eu casglu gan Gyllid a Thollau EiMawrhydi (CThEM), a fydd yn gymwys i’r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm;c. y bydd y cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm a godir gan Lywodraeth yDU yng Nghymru yn cael eu gostwng 10 ceiniog yn y bunt ar y dechrau. Ymhen amser gallaicyfran Llywodraeth Cymru gynyddu os bydd consensws gwleidyddol;ch. y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu amrywio’r cyfraddau treth sylfaenol, uwch acychwanegol ar wahân i’w gilydd;d. na fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfyngu wrth osod cyfraddau ar ben y cyfraddau is argyfer y DU;dd. y bydd y mecanwaith ar gyfer addasu’r grant bloc yn cael ei seilio ar y dull didynnu wedi’ifynegrifo sydd wedi’u hargymell gan Gomisiwn Holtham, ac sy’n cael eu rhoi ar waith yn yrAlban, sy’n cynnwys egwyddor ‘dim niwed’ yn awtomatig; acf. y bydd trefniadau pontio ar ôl cyflwyno datganoli ar dreth incwm, yn benodol er mwynhelpu i reoli’r broses o drosglwyddo risg.

A.17. Argymhellir bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon trethincwm i Gymru mewn ffordd debyg i’r Alban a bod y symiau a ragwelir yn cael eu haseinioi Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno deddfwriaeth, heb gael unrhyw effaith ar bŵer gwarioLlywodraeth Cymru.

A.18. Argymhellir y bydd y trosglwyddo ar bwerau dros dreth incwm i LywodraethCymru yn amodol ar ddatrys mater ariannu teg mewn ffordd y mae Llywodraeth Cymru aLlywodraeth y DU yn cytuno arni.

A.19. Argymhellir bod pŵer ychwanegol yn cael ei roi i Weinidogion Cymru i fenthycaer mwyn buddsoddi cyfalaf uwchlaw’r Terfyn Gwariant Adrannol yng nghyllideb LlywodraethCymru. Dylid cael terfyn cyffredinol ar fenthyca o’r fath, a fydd yn gymesur o leiaf â’r hyn sydd yn yr Alban, gan gofio bod Cymru’n gymharol rydd oddi wrth effaith mentrau cyllid preifat.Bydd y proffil blynyddol y cytunir arno’n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ac yn cael ei adolyguym mhob adolygiad o wariant. Dylid benthyca o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neuo ffynonellau masnachol. Argymhellir hefyd y dylai Llywodraeth Cymru allu dyroddi eibondiau ei hun.

A.20. Argymhellir bod pwerau newydd i Weinidogion Cymru i fenthyca at ddibeniontymor byr yn cael eu cyflwyno i reoli llif arian parod a delio â derbyniadau trethi cyfnewidiolpan fydd trethi wedi eu datganoli, yn debyg i’r rheini yn Neddf yr Alban 2012.

A.21. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i hyrwyddobuddsoddi ychwanegol yng Nghymru drwy’r gwahanol fathau o fecanweithiau ariannu sydd argael.

A.22. Mae cyfle i drefnu bod mwy o wybodaeth ar gael i sicrhau mwy o atebolrwydd ariannol,dealltwriaeth gyhoeddus a thryloywder, ac rydym yn argymell y canlynol, yn amodol ar asesiadmanwl o’r costau a buddion sy’n gysylltiedig gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel ybo’n briodol:a. bod trefniadau’n cael eu gwneud i ddarparu amcangyfrifon o’r gwariant yn Lloegr arwasanaethau sydd wedi’u datganoli yn achos Cymru i gyfrannu at y ddadl ar gyllidcyhoeddus yng Nghymru;b. bod ystyriaeth ynghylch a ddylid cynnwys haen ‘is-genedlaethol’ o wariant llywodraeth yngnghyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y Deyrnas Unedig;c. bod ffigurau’n cael eu cynhyrchu ar faint y dreth a gaiff ei gasglu yng Nghymru. Dylai’rffigurau hyn gynnwys amcangyfrifon hefyd o gydbwysedd cyllidol Cymru. Dylid dadansoddi’rffigurau ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’n gyson ar draws y DU;ch. rydym yn annog Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i gyhoeddi ystadegaucymharol allweddol mewn meysydd sydd wedi’u datganoli a rhai sydd heb eu datganoli bobblwyddyn; ad. bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellid cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr economi yngNghymru gan gynnwys gwybodaeth am Werth Ychwanegol Crynswth Cymru neu fesurauincwm eraill, yn ogystal â gwybodaeth am ragolygon economaidd.

A.24. Dylid caniatáu i Lywodraeth Cymru drosglwyddo gwariant o wariant cyfalaf i wariantadnoddau yn unol â thelerau concordat y cytunir arno â Thrysorlys EM, gan ystyried hanesblaenorol Llywodraeth Cymru o ran rheoli cyllidebau ac ar yr amod na fydd hynny’n peryglutargedau cyllidol Llywodraeth y DU.

A.25. Bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill ynadolygu eu profiad o’r cynllun cyfnewid cyllidebol datganoledig yn yr adolygiad nesaf o wariantac yn cytuno ar hyblygrwydd priodol ar yr amod na fydd hynny’n peryglu targedau cyllidolLlywodraeth y DU.

A.26. Y bydd refferendwm yng Nghymru ar ddatganoli treth incwm. Dylid cynnwys darpariaethar gyfer refferendwm o’r fath yn y Ddeddf sy’n cyflwyno pwerau trethu a benthyca.

A.27. Bod Mesur Cymru newydd yn cael ei gyflwyno yn y Senedd hon i ddatganoli pwerautrethu a benthyca. Ni ddylid aros nes bod Rhan II ein gwaith wedi’i chwblhau cyn cyflwynomesur i ddatganoli pwerau trethu a benthyca. Dylid cyflwyno newidiadau nad oes angendeddfwriaeth ar eu cyfer cyn gynted â phosibl.

A.28. Y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Trysorlys Cymru i reoli’r pwerau newydd yr ydymyn eu hargymell.

A.29. Bydd y system ariannu newydd yn galw am gryfhau’r trefniadau sefydliadol er mwyndelio â chyllid:a. dylid sefydlu Pwyllgor Dwyochrog Rhynglywodraethol ar y cyd ar Ddatganoli Cyllidol i Gymrua fydd yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ar ôl cyhoeddi rhagolygon chwemisol ySwyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i drafod trethiant a pholisi macro-economaidd;b. dylid pennu’r berthynas rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), yr Adran Gwaith a Phensiynau,a Llywodraeth Cymru ar dreth incwm mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a gaiff eigyhoeddi cyn gweithredu’r argymhellion;c. ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, dylai llinellau atebolrwyddCThEM o ran y gyfradd treth incwm i Gymru fod yn debyg i’r rheinirhwng CThEM a Senedd a Llywodraeth y DU. Dylai Swyddog CyfrifydduYchwanegol yng CThEM fod yn benodol atebol am gasglu’r gyfraddtreth incwm i Gymru; ch. dylai Mesur Cymru alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddigolledu CThEM am y costau ychwanegol net sy’n gysylltiedig â gweithredu a chynnal y gyfraddtreth incwm i Gymru. Ar gyfer y trethi a gaiff eu datganoli’n llwyr (Treth Tir y Doll Stamp aThreth Tirlenwi) ac unrhyw drethi newydd, bydd angen i’r Cynulliad gytuno ar drefniadauffurfiol, er enghraifft, contract neu gytundeb lefel gwasanaeth ategol â’r corff y mae’ndymuno iddo weinyddu’r trethi;d. lle y byddai cyfradd dreth amrywiol yn gallu arwain at gynnydd neu ostyngiad ynrhwymedigaethau Llywodraeth y DU, dylid glynu wrth yr egwyddor yn y Datganiad PolisiAriannu y bydd y corff y mae ei benderfyniad yn arwain at y gost ychwanegol yn cwrdd â’rgost honno;dd. dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod system ariannu Cymru mor dryloyw â phosibl a bod yrelfennau allweddol yn cael eu gwirio’n annibynnol neu eu bod yn dibynnu ar ffynonellauannibynnol. Dylai’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod yn gyfrifol am gynhyrchu rhagolygono dderbyniadau trethi Cymru, wedi’u seilio ar ddata a fydd yn cynnwys gwybodaeth wedi’idarparu gan Lywodraeth Cymru. Dylid cyhoeddi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng ySwyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, CThEM a Thrysorlys EM yn y cyfnod cyngweithredu’r argymhellion yn ogystal â manylion ychwanegol am fethodoleg y rhagolygon.Dylid cymhwyso egwyddor ‘dim niwed’ yn yr un modd ag yn yr Alban;e. dylai Llywodraeth y DU wahodd y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yn rhinwedd ei swyddyn bennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i baratoi adroddiad i Gynulliad CenedlaetholCymru am weinyddu’r gyfradd treth incwm i Gymru gan CThEM. Osbydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cysylltu â CThEM ynghylchgweinyddu’r trethi llai, a bod CThEM yn cytuno i wneud, mater iLywodraeth Cymru fydd penderfynu sut y bydd unrhyw drefniant archwilio’n gweithio.

A.30. Bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i ddefnyddio pweraueconomaidd sydd wedi’u datganoli a rhai sydd heb eu datganoli i gryfhau sylfaen drethi Cymru.

A.31. Y bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam er mwyn rheoli risgiau o ranansefydlogrwydd mewn cyllid cyhoeddus ac enillion annisgwyl neu ergydion niweidiol iGyllideb Cymru.

A.32. Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael rheolaeth ddeddfwriaethol dros eiweithdrefnau cyllidebol ei hun.

A.33. Y gallai Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol weld bod angen meithrin rhywfaint o alluychwanegol ar gyfer craffu ariannol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu