Cader Idris

mynydd yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Cadair Idris)

Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cader Idris (neu Cadair Idris ). Fe'i lleolir ym Meirionnydd, de Gwynedd, ger Dolgellau, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Cadair Idris
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr893 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6998°N 3.9087°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd608 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaAran Fawddwy Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae ganddo bedwar copa sef Geugraig, yna tua'r gorllewin Mynydd Moel, wedyn Pen y Gadair ei hun (sef y fam-gopa) ac yna'r Cyfrwy a'r Tyrau Mawr yn ymestyn i'r dwyrain tua'r môr. Mae Pen y Gadair 893 metr uwch ben lefel y môr.

Mae cwt cysgodi ar gopa Pen y Gadair, ac yn ôl hen dradoddiad, bydd pob un a gwsg ar y mynydd, yn deffro naill ai fel bardd neu fel gwallgofddyn.[1]

Idris a'i gadair golygu

Yn ôl y chwedl a gofnodwyd gan John Jones, Gellilyfdy, oddeutu 1600, enwir y mynydd ar ôl Idris Gawr. Roedd yn bennaeth ar dri chawr arall yn yr ardal, Ysgydion, Offrom ac Ysbryn, a roddodd eu henwau ar fryniau cyfagos (Moel Ysgydion, Moel Offrom/Offrwm a Moel Ysbryn).[2] Yno yn nghwm Llyn y Gadair roedd y cawr yn eistedd. Roedd yn enwog am ei wybodaeth o'r sêr a dywedir ei fod yn eistedd ar ben Cader Idris i'w gwylio.

Cadair Idris ynteu Cader Idris? golygu

Ystyr sylfaenol y gair cadair (Cymraeg Canol/Modern Cynnar kadeir neu cadeir) yw 'sedd, eisteddle' (wedi ei fenthyg o'r Lladin cathedra 'sedd'). Mewn enwau lleoedd gall olygu 'caer, amddiffynfa' neu 'mynydd neu fryn ar ffurf cadair'. Mae'r sillafiad cader yn cynrychioli ffurf lafar ar cadair.[3]

Ymddengys mai'r ffurf Cadair/Cadeir Idris a geir yn y ffynonellau Cymraeg cynharaf. Mewn cerdd a ysgrifennodd Lewys Glyn Cothi â'i law ei hun yn ail hanner 15g, ceir y llinell 'Dros gadair idris gêdy' ('Dros Gadair Idris gwedy').[4] Oddeutu 1600, cyfeiriodd John Jones, Gellilyfdy, yntau at 'y mynydh neu bhan neu bhoel a elwir Cadeir Idris'.[5]

Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, datblygodd y ffurf lafar a gynrychiolir gan y sillafiad cader. Oherwydd hynny gwelir y ffurf Cader Idris mewn dogfennau swyddogol Lladin a Saesneg o ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r Cyfnod Modern Cynnar ac mewn cofnodion Cymraeg a Saesneg mwy diweddar.[6]

Yn y geiriadur Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex a gyhoeddwyd yn 1632 gwahaniaethodd John Davies, Mallwyd, rhwng y ddau air cadair ('sedd') a cader ('caer, amddiffynfa'), gan gyfeirio at 'Cader Idris' a 'Cader Ddinmael'. Dilynwyd y dehongliad hwnnw gan rai geiriadurwyr diweddarach, gan gynnwys Thomas Charles[7] a Titus Lewis.[8] Derbynnir bellach, fodd bynnag, mai sillafiad o ffurf lafar ar cadair yw cader, ac nad oes sail i'r gred fod cadair a cader yn ddau air gwahanol.[9] Ond am ei fod yn adlewyrchu'r ynganiad tafodieithol lleol, mae'r sillafiad Cader Idris yn gyffredin yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ym Mehefin 2016 penderfynodd Parc Cenedlaethol Eryri ddefnyddio'r sillafiad hwnnw o hynny ymlaen.[10] Adlewyrchir y ffurf dafodieithol hefyd yn enw'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Gader.

Arthur's Seat golygu

Yn y 19g, bu ehangu ar y rheilffyrdd a thrwy hynny ehangu ar y diwydiant twristaidd. Gan fod diwydiant y Brenin Arthur yn denu twristiaid, ceisiwyd honni bod yr enw Idris yn ffurf amgen Gymreig am Arthur, ac mae Arthur's Seat oedd Cader Idris yn y Saesneg.[11]

Copaon golygu

Llyn Cau yn y blaendir a'r Gadair yn y pellter uchaf (dde).
Bryn Brith, Cader Idris
Lleoliad y copaon o Ddolgellau i Fachynlleth
Ei chywion:
EnwCyfesurynnau OSCyfesurynnau Daearyddol
Braich Ddu (Craig Cwm-llwyd):SH645120 map 52.688°N, 4.006°W
Bryn Brith:SH664153 map 52.718°N, 3.979°W
Cadair Idris - Penygadair:SH711130 map 52.699°N, 3.908°W
Ceiswyn:SH745109 map 52.681°N, 3.857°W
Corlan Fraith:SH630000 map 52.58°N, 4.023°W
Craig Cwm Amarch:SH710121 map 52.691°N, 3.91°W
Craig Lwyd:SH714118 map 52.688°N, 3.904°W
Craig Portas:SH801141 map 52.711°N, 3.776°W
Craig Portas (copa dwyreiniol):SH808142 map 52.712°N, 3.765°W
Craig y Castell:SH697161 map 52.726°N, 3.93°W
Craig-las (Tyrrau Mawr):SH677135 map 52.702°N, 3.959°W
Craig-y-llyn:SH665119 map 52.688°N, 3.976°W
Cribin Fawr:SH794152 map 52.72°N, 3.787°W
Cyfrwy:SH703133 map 52.701°N, 3.92°W
Esgair Berfa:SH637095 map 52.666°N, 4.016°W
Ffridd Cocyn:SH624042 map 52.618°N, 4.033°W
Ffridd-yr-Ychen:SN640977 map 52.56°N, 4.007°W
Foel Cae'rberllan:SH676082 map 52.655°N, 3.958°W
Foel Ddu:SH697095 map 52.667°N, 3.928°W
Foel Dinas:SH842143 map 52.713°N, 3.715°W
Foel y Geifr (Bro Dysynni):SH716050 map 52.627°N, 3.898°W
Gamallt:SH665067 map 52.641°N, 3.974°W
Gau Graig:SH744141 map 52.709°N, 3.86°W
Godre Fynydd:SH756097 map 52.67°N, 3.841°W
Graig Goch:SH714084 map 52.658°N, 3.902°W
Maesglase (hen GR) - Maen Du:SH822151 map 52.72°N, 3.745°W
Maesglase (copa gorllewinol):SH817150 map 52.719°N, 3.752°W
Mynydd Braich-goch:SH729072 map 52.647°N, 3.88°W
Mynydd Ceiswyn:SH772139 map 52.708°N, 3.819°W
Mynydd Cwmcelli:SH804099 map 52.673°N, 3.77°W
Mynydd Cwmeiddew:SH750106 map 52.678°N, 3.85°W
Mynydd Fron-fraith:SH747117 map 52.688°N, 3.855°W
Mynydd Gwerngraig:SH736136 map 52.705°N, 3.872°W
Mynydd Moel:SH727136 map 52.705°N, 3.885°W
Mynydd Pencoed:SH704117 map 52.687°N, 3.918°W
Mynydd Rhyd-galed (copa dwyreiniol Tarrenhendre):SH699043 map 52.62°N, 3.923°W
Pared y Cefn-hir:SH662149 map 52.715°N, 3.982°W
Pen Trum-gwr:SH651029 map 52.607°N, 3.993°W
Tal y Gareg:SH579041 map 52.616°N, 4.1°W
Tarren Cwm-ffernol:SH659023 map 52.601°N, 3.981°W
Tarren y Gesail:SH710058 map 52.634°N, 3.907°W
Tarrenhendre:SH682041 map 52.618°N, 3.948°W
Waun-oer:SH785147 map 52.716°N, 3.8°W

Llwybrau golygu

Y Gadair

Ymhlith y llwybrau ar y Gader ceir:

Llwybr Pilin Pwn

Yn ôl yr awdures Bethan Gwanas yn ei llyfr Y Mynydd Hwn, y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pilin Pwn sef yr un a adnabyddir yn Saesneg fel y "Pony Track". Mae'n cychwyn o Ddolgellau ac yn golygu 2,000 troedfedd o ddringo mewn 5 km.

Llwybr Minffordd

Llwybr sy'n dechrau ger Llyn Myngul ac sy'n mynd heibio Llyn Cau. Ei hyd yw 4.4 cilometr (2.7 milltir).

Llwybr Madyn

Mae Llwybr Madyn (neu Llwybr y Llwynog; "Foxes Path" yn Saesneg) yn llwybr 3.8 kilometr (2.4 milltir) o hyd sy'n cynnwys dringo 310 metr o gerrig mân (sgri). Dyma'r llwybr mwyaf uniongyrchol ond mae'r rhan olaf yn dioddef o erydu am ei fod mor boblogaidd.

Panorama o Gadair Idris

Hen benillion golygu

Ceir sawl un o'r Hen Benillion sy'n ymwneud â Chadair Idris:

Os oes coel ar bennau'r moelydd,
Buan daw yn chwerw dywydd;
Pan fo niwl ar Gadair Idris,
Yn ei thŷ ceir Lowri Lewis.[12]
Pe bae Cader Idris Fawr
Yn siwgwr gwyn o'i phen i lawr,
A dail y coed i gyd yn de,
Cystal gwlad drachefn â'r dre.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124.
  2. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124, 126 (y dyfyniad o 124). Defnyddiai John Jones <dh> a <bh> i gyfleu'r seiniau /ð/ a /v/ (a gyfleir gan <dd> a <f> heddiw).
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. 'cadair'.
  4. Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llawysgrif Peniarth 70, 21a; Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), t. 478 (221.16).
  5. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124. Defnyddiai John Jones <dh> a <bh> i gyfleu'r seiniau /ð/ a /v/ (a gyfleir gan
    a <f> heddiw).
  6. Gw. Archif Melville Richards d.e. 'Cadair Idris'.
  7. Thomas Charles,Geiriadur Ysgyrthurol (Wrecsam, Hughes a'i Fab: 1893), t. 137.
  8. Titus Lewis,Geirlyfr Cymraeg a Saesneg (Carmarthen, J. Evans: 1805), t. 42.
  9. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 61
  10. BBC Cymru Fyw, 'Parc Cenedlaethol: 'Cader' nid 'Cader''.
  11. Syr John Rhŷs; Celtic Folkelore Welsh and Manx Cyf 1 T 203
  12. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 350.

Dolenni allanol golygu