An die Freude
Freude, schöner Götterfunken, Tochter aus Elisium, Wir betreten feuertrunken, Himmlische, dein Heiligthum. Deine Zauber binden wieder, was der Mode Schwerd getheilt; Bettler werden Fürstenbrüder, wo dein sanfter Flügel weilt.
Chor.
Seid umschlungen, Millionen! Diesen Kuß der ganzen Welt! Brüder – überm Sternenzelt muß ein lieber Vater wohnen.
Wem der große Wurf gelungen, eines Freundes Freund zu seyn; wer ein holdes Weib errungen, mische seinen Jubel ein! Ja – wer auch nur eine Seele sein nennt auf dem Erdenrund! Und wer's nie gekonnt, der stehle weinend sich aus diesem Bund!
Chor.Was den großen Ring bewohnet huldige der Simpathie! Zu den Sternen leitet sie, Wo der Unbekannte tronet.
Freude trinken alle Wesen an den Brüsten der Natur, Alle Guten, alle Bösen folgen ihrer Rosenspur. Küße gab sie uns und Reben, einen Freund, geprüft im Tod. Wollust ward dem Wurm gegeben, und der Cherub steht vor Gott.
Chor.Ihr stürzt nieder, Millionen? Ahndest du den Schöpfer, Welt? Such' ihn überm Sternenzelt, über Sternen muß er wohnen.
Freude heißt die starke Feder in der ewigen Natur. Freude, Freude treibt die Räder in der großen Weltenuhr. Blumen lockt sie aus den Keimen, Sonnen aus dem Firmament, Sphären rollt sie in den Räumen, die des Sehers Rohr nicht kennt!
Chor.Froh, wie seine Sonnen fliegen, durch des Himmels prächtgen Plan, Laufet Brüder eure Bahn, freudig wie ein Held zum siegen.
Aus der Wahrheit Feuerspiegel lächelt sie den Forscher an. Zu der Tugend steilem Hügel leitet sie des Dulders Bahn. Auf des Glaubens Sonnenberge sieht man ihre Fahnen wehn, Durch den Riß gesprengter Särge sie im Chor der Engel stehn.
Chor.Duldet mutig, Millionen! Duldet für die beßre Welt! Droben überm Sternenzelt wird ein großer Gott belohnen. | Awdl i Lawenydd[1]
Di, Lawenydd, nef wreichionen, Rhiain deg Paradwys fry. Deuwn gyda hoen gorawen, I'th gynteddoedd nefol di ; Pan fo dulliau'r byd yn ysgar, Clymu eilwaith mae dy swyn ; Brodyr fydd holl deulu'r ddaear, Dan dy adain dyner fwyn.
CôrCydgofleidiwch, chwi filyniau ! Deyrnas cariad is y rhod ; Frodyr—tirion Dad sy'n bod Draw tu hwnt i'r sêr-droellau.
Ef o'i buredd gafodd brofi Ennill ffrind a fo'n parhau, Neu a garodd lân ddyweddi, Unent oll i lawenhau ! A phe onid un a geffir Ganddo'n gyfaill iddo'n dynn ; Nac erioed 'run enaid cywir, Wyled golli'r clymau hyn.
CôrHoll dylwythau pob preswylfod, Cydymdeimlo fyddo'ch trefn ! At y sêr fe'ch dwg drachefn, Lle saif thrôn y Diadnabod.
Pawb a dderbyn o'r Llawenydd Ddyry natur yn ei bryd ; Da a'r drwg, canlynant beunydd Hynt eu gwridog ffyrdd ynghyd. Hi a roes y peraidd winwydd, Hefyd ffrind hyd derfyn byw ; Rhoes i'r pryf ei nwyfiant dedwydd, Cerub fan yn ymyl Duw.
CôrYmostyngwch, chwi filiynau ! Fyd ! a fynni'r Crëwr Nêr ? Cais Efo tu draw i'r sêr ! Byw y mae uwch sêr-droellau.
Gyr Llawenydd yr egnïon Trwy anghyffin natur oll, A Llawenydd dry'r olwynion Trwy'r cyfanfyd yn ddi-goll. Huda'r blodau cladd o'u hadau, Heuliau o'r ffurfafen frith, Try holl gylchau'r eangderau A'r nis cenfydd serydd byth.
CôrLlon mal heuliau'n troi i'w gorchest Trwy ororau'r lasne faith, Rhedwch frodyr yrfa'ch taith, Llawen, megis cawr i'w goncwest.
Syth o danbaid ddrych gwirionedd Ar a chwilio gwenu bydd ; Hyd at serth lechweddau rhinwedd Arwain hi yn dioddef sydd. Ar haul-fryniau ffydd yn olau Chwifio mae ei baner hi, A chan ddryllio bolltau'r beddau Saif yng nghôr yr engyl fry.
CôrYmwrolwch, chwi filiynau ! Dioddef dros gael byd sydd well ! Fry goruwch y sêr ymhell Trig yr uchel Dduw a'i wobrau. |