Ôl-drefedigaethedd

(Ailgyfeiriad o Ôl-drefedigaethrwydd)

Damcaniaeth, neu faes sydd yn cwmpasu sawl damcaniaeth gysylltiedig, yw ôl-drefedigaethedd[1] (hefyd ôl-drefedigaethrwydd neu ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol) sydd yn dadansoddi, egluro, ac ymateb i waddolion trefedigaethrwydd ac imperialaeth yr oes fodern drwy ddulliau beirniadol. Term eang ydyw sy'n cwmpasu disgyblaeth academaidd, fframwaith damcaniaethol ac epistemolegol, moeseg, ac ideoleg wleidyddol neu fydolwg, a gall hefyd gyfeirio'n gyffredinol at y cyfnod hanesyddol neu'r cyflwr materion rhyngwladol a ddilynodd yr oes drefedigaethol.[2] Damcaniaeth amlddisgyblaethol ydyw sydd yn ymdrin ag athroniaeth, gwyddor gwleidyddiaeth, ffeministiaeth, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, a beirniadaeth lenyddol, ymhlith nifer o feysydd eraill, ac yn canolbwyntio ar y dylanwadau ac effeithiau gwleidyddol, economaidd, diwylliannol, a chymdeithasol a gâi trefedigaethrwydd ar y cyn-drefedigaethau.

Ôl-drefedigaethedd
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, ideoleg Edit this on Wikidata
Mathnormative science Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datblygodd ôl-drefedigaethedd yn ystod ail hanner yr 20g fel ymateb i etifeddiaeth trefedigaethrwydd, yn enwedig yn sgil datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd. Arloeswyd y maes gan ysgolheigion o gyn-drefedigaethau a ddechreuodd arsylwi ar effeithiau parhaol yr hen drefn drefedigaethol ar eu gwledydd newydd-annibynnol, gan dynnu ar ddamcaniaeth feirniadol i ddadansoddi hanes, diwylliannau, a disgyrsiau gwleidyddol a llenyddol y pwerau imperialaidd. Mae ôl-drefedigaethedd yn ymdrin â'r trefedigaethwr yn ogystal â'r trefedigaethedig, ac yn canolbwyntio ar y cyfarfyddiadau rhwng y ddwy gymdeithas, gan gynnwys cyfnewid diwylliannol, hiliaeth, ymelwa economaidd, rhyfel a gwrthryfel, a llywodraeth. Mae damcaniaethwyr ôl-drefedigaethol enwog yn cynnwys Edward Said, Frantz Fanon ac Homi K. Bhabha.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Grug Muse, "Ôl-drefedigaethedd", Yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2024.
  2. (Saesneg) Postcolonialism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mehefin 2024.

Darllen pellach

golygu
  • Jane Hiddleston, Understanding Postcolonialism (Stocksfield, Northumberland: Acumen, 2009).
  • Joanne P. Sharp, Geographies of Postcolonialism: Spaces of Power and Representation (Llundain: Sage, 2009).
🔥 Top keywords: