Vilnius
Prifddinas a dinas fwyaf Lithwania yw Vilnius (pwyleg: Wilno), gyda phoblogaeth o 555,613 (847,954 yn cynnwys Swydd Vilnius) yn 2008. Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Vilnius, Dosbarth Dinesig Vilnius, a Swydd Vilnius. Yn 2009 Vilnius oedd Prifddinas Diwylliant Ewrop, ynghyd â Linz, Awstria.
Arwyddair | Unitas, Iustitia, Spes |
---|---|
Math | prifddinas |
Enwyd ar ôl | Afon Vilnia |
Poblogaeth | 581,475 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Remigijus Šimašius |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Dinas Vilnius |
Gwlad | Lithwania |
Arwynebedd | 401 km² |
Uwch y môr | 112 metr, 98 metr |
Gerllaw | Neris, Afon Vilnia |
Cyfesurynnau | 54.6872°N 25.28°E |
Cod post | 01001 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vilnius |
Pennaeth y Llywodraeth | Remigijus Šimašius |
Gorwedd y ddinas ar gyfaber afonydd Vilnia a Neris yn ne-ddwyrain Lithwania. Tybir fod ei henw yn deillio o enw afon Vilnia. Nid yw'n gorwedd yng nghanol Lithwania heddiw ond yn hanesyddol roedd yn gorwedd yng nghanol Dugiaeth Fawr Lithwania. Lleolir Vilnius tua 312 km (194 milltir) o lan y Môr Baltig a Memel (Klaipeda), prif borthladd Lithwania. Cyslltir Vilnius gan draffyrdd i rai o ddinasoedd mawr eraill y wlad, fel Cawnas (102 km/63 milltir i ffwrdd), Šiauliai (214 km/133 milltir) a Panevėžys (135 km/84 miltir).
Adeiladau a chofadeiladau golygu
- Amgueddfa Genedlaethol Lithwania
- Eglwys Gadeiriol y Theotokos
- Eglwys Sant Anne
- Llyfrgell Martynas Mažvydas
- Tŵr Gediminas
Enwogion golygu
- Jascha Heifetz (1901-1987), cerddor
- Romain Gary (1914-1980), awdur
Dolenni allanol golygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas