Uttarakhand
Mae Uttarakhand (Hindi: उत्तराखंड), a adnabyddid fel Uttaranchal o 2000 hyd 2006, yn dalaith yn India. Uttarakhand oedd y 27ain o daleithiau India i ddod i fodolaeth, ar 9 Tachwedd, 2000, wedi ei ffurfio o diriogaethau oedd cynt yn rhan o Uttar Pradesh. Mae'n ffinio â Tibet yn y gogledd a Nepal yn y dwyrain, a hefyd â thaleithiau Himachal Pradesh yn y gorllewin ac Uttar Pradesh yn y de.
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | gogledd |
Prifddinas | Dehradun |
Poblogaeth | 10,086,292 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Trivendra Singh Rawat, Pushkar Singh Dhami |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 53,566 km² |
Yn ffinio gyda | Uttar Pradesh, Himachal Pradesh, Haryana, Far-Western Development Region |
Cyfesurynnau | 30.511187°N 78.954012°E |
IN-UK | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Uttarakhand Legislative Assembly |
Corff deddfwriaethol | Uttarakhand Legislative Assembly |
Pennaeth y wladwriaeth | Krishan Kant Paul |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Uttarakhand |
Pennaeth y Llywodraeth | Trivendra Singh Rawat, Pushkar Singh Dhami |
Prifddinas y dalaith ar hyn o bryd yw Dehra Dun. Mae'r boblogaeth frodorol yn ei galw eu hunain yn Garhwali/Kumaoni, ac mae dros 90% ohonynt yn ddilynwyr Hindwaeth. Roedd y boblogaeth yn 8,479,562 yn 2001. Mae'r rhan ogleddol o'r dalaith yn rhan o'r Himalaya; y mynydd uchaf yw Nanda Devi (7816 m.).Yn Uttarakhand mae Afon Ganga ac Afon Yamuna yn tarddu, yn Gangotri a Yamunotri, sy'n gyrchfannau pererinion. Mae Haridwar hefyd yn gyrchfan boblogaidd. Ceir nifer o barciau cenedlaethol yma, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Jim Corbett yn Ramnagar, yr hynaf o barciau cenedlaethol India.