Ugly Betty

Mae Ugly Betty yn gyfres deledu gomedi ddramatig Americanaidd sydd yn serennu America Ferrera yn y prif rôl Betty Suarez, gydag Eric Mabius, Judith Light, Rebecca Romijn a Vanessa Williams. Darlledwyd y gyfres gyntaf yn UDA a Chanada ar 28 Medi, 2006 ar ABC a CityTV. Mae'r gyfres yn dilyn bywyd y ferch gymwynasagar a di-ffasiwn, Betty Suarez a'i swydd anghydweddol yn y cylchgrawn ffasiwn Mode, yn Efrog Newydd.

Ugly Betty

Logo Ugly Betty
GenreComedi/drama
Crëwyd ganFernando Gaitán
SerennuAmerica Ferrera
Eric Mabius
Tony Plana
Ana Ortiz
Judith Light
Christopher Gorham
Ashley Jensen
Becki Newton
Michael Urie
Mark Indelicato
Rebecca Romijn
Vanessa Williams
Cyfansoddwr y themaJeff Beal
Gwlad/gwladwriaethYr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoeddSaesneg
Nifer cyfresi3
Nifer penodau41
Cynhyrchiad
Amser rhedeg42 munud
Darllediad
Sianel wreiddiolABC
Rhediad cyntaf yn28 Medi 2006
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Mae'r gyfres yn addasiad o'r telenovela Colombaidd Yo soy Betty, la fea (Rwy'n Betty, y ferch hyll). Addaswyd gan Silvio Horta, Salma Hayek a Ben Silverman fel bod y gyfres wedi ei gosod yn Efrog Newydd. Mae Salma Hayek wedi ymddangos ar y ddrama ei hun fel Sofia Reyes yn ogystal â chwarae rôlau ar y telenovela ffuglennol sy'n ymddangos ar y teledu a wylir gan y cymeriadau ar y ddrama.

Mor belled mae'r ddwy gyfres gyntaf wedi eu darlledu yn y Deyrnas Unedig gydag 8 rhaglen olaf yr ail gyfres yn cael eu dangos ym mis Medi a Hydref 2008 (blwyddyn ar ôl 10 pennod gyntaf y gyfres) oherwydd streic yr ysgrifenwyr.

Prif Cast

golygu

Dolen Allanol

golygu