Richmond, Gogledd Swydd Efrog
Tref a phlwyf sifil yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Richmond.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Richmondshire.
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Richmondshire |
Gefeilldref/i | Sant-Albin-an-Hiliber, Vinstra |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.40361°N 1.73722°W |
Cod SYG | E04007520 |
Cod OS | NZ170009 |
Cod post | DL10 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 8,413.[2]
Hanes golygu
Geirdarddiad golygu
Enwyd Richmond ar ôl dref Richemont yn Normandy (sydd erbyn hyn yn département Seine-Maritime, ardal Haute-Normandie). Y Richmond yma a roddodd yr enw ar anrhydedd Ieirll Richmond (neu comtes de Richemont). Roedd hon yn urddas a ddeilwyd gan Ddug Llydaw yn ogystal, rhwng 1136 ac 1399.
Hanes cynnar golygu
Sefydlwyd Richmond yn 1071 gan y Norman, Alan Rufus, ar diroedd a roddwyd iddo gan William y Gorchfygwr. Cwblhawyd Castell Richmond yn 1086, gyda gorthwr a waliau'n amgylchynnu'r ardal a elwir heddiw yn Market Place.
- Golygfa o Richmond o Frenchgate
- Castell Richmond
Cyfeiriadau golygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 30 Awst 2020
- ↑ City Population; adalwyd 1 Medi 2020
Dinasoedd
Efrog · Ripon
Trefi
Bedale · Bentham · Boroughbridge · Colburn · Easingwold · Filey · Grassington · Guisborough · Harrogate · Haxby · Helmsley · Ingleby Barwick · Kirkbymoorside · Knaresborough · Leyburn · Loftus · Malton · Masham · Middleham · Middlesbrough · Norton-on-Derwent · Northallerton · Pateley Bridge · Pickering · Redcar · Richmond · Saltburn-by-the-Sea · Scarborough · Selby · Settle · Skelton-in-Cleveland · Skipton · Stokesley · Tadcaster · Thirsk · Thornaby-on-Tees · Whitby · Yarm