Ffilm gomedi anemeiddiedig Americanaidd yw Kung Fu Panda (2008). Cafodd ei chyfarwyddo gan John Wayne Stevenson a Mark Osborne a'i chynhyrchu gan Melissa Cobb. Cynhyrchwyd y ffilm yn Stiwdios Animeddio DreamWorks yn Glendale, Califfornia a'i dosbarthu gan Paramount Pictures. Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau ar 6 Mehefin 2008. Mae'r ffilm yn serennu lleisiau Jack Black fel y panda, Po, ynghyd â lleisiau Dustin Hoffman, Jackie Chan, Angelina Jolie, Ian McShane, Seth Rogen, Lucy Liu, David Cross, Randall Duk Kim, James Hong, Dan Fogler, ac Michael Clarke Duncan. Lleolir y ffilm yn hen Cheina a dilyna'r ffilm hynt a helynt panda lletchwith sy'n breuddwydio am fod yn feistr kung fu. Pan mae ymladdwr brawychus yn dianc o'r carchar, daw Po yn Frwydrwr y Ddraig. Mae Dreamworks yn gweithio ar ffilm ddilynol i Kung Fu Panda sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.

Kung Fu Panda

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr John Wayne Stevenson
Mark Osborne
Cynhyrchydd Melissa Cobb
Ysgrifennwr Jonathan Aibel
Glenn Berger
Stori:
Ethan Reiff
Cyrus Voris
Serennu Jack Black
Dustin Hoffman
Angelina Jolie
Ian McShane
Jackie Chan
Seth Rogen
Lucy Liu
David Cross
Randall Duk Kim
James Hong
Dan Fogler
Michael Clarke Duncan
Cerddoriaeth Hans Zimmer
John Powell
Sinematograffeg Yong Duk Jhun
Golygydd Clare de Chenu
Dylunio
Cwmni cynhyrchu DreamWorks Animation
Pacific Data Images
Dosbarthydd Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau Gogledd America:
6 Mehefin, 2008
Awstralia:
26 Mehefin, 2008:
Y Deyrnas Unedig:
4 Gorffennaf, 2008
Amser rhedeg 91 munud
Gwlad Unol Daleithiau America
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Er fod y syniad o "kung fu panda" wedi bodoli ers 1993 o leiaf, ni ddechreuwyd gweithio ar y prosiect tan 2004. Un o gyfarwyddwyr DreamWorks Animation, Michael Lachance, gafodd y syniad am y ffilm. Yn wreiddiol, bwriadwyd creu ffilm barodi ond penderfynodd y cyfarwyddwr Stevenson i greu ffilm a oedd yn efelychu ffilmiau cyffro Hong Kong, sydd yn plethu siwrnai'r prif gymeriad. Roedd yr animeiddio cyfrifiadurol yn fwy cymhleth nag unrhyw beth roedd DreamWorks wedi gwneud yn flaenorol. Fel yn achos nifer o ffilmiau animeiddiedig DreamWorks, ysgrifennwyd y sgôr gan Hans Zimmer (a gyd-weithiodd gyda John Powell). Ymwelodd â Cheina er mwyn ymgyfarwyddo â'r diwylliant ac i gwrdd â Cherddorfa Cenedlaethol Cheina.

Cast a chymeriadau

CymeriadActor lleisiolAnifail
PoJack BlackPanda Mawr
Master ShifuDustin HoffmanPanda Coch
Tai LungIan McShaneLlewpart yr Eira
Master TigressAngelina JolieTeigr De Tsieina
Master ViperLucy LiuGwiber Werdd y Coed
Master MantisSeth RogenMantis Tsieina
Master MonkeyJackie ChanLangwr Euraid
Master CraneDavid CrossGaran Corun-goch
Master OogwayRandall Duk KimCrwban y Galápagos
Mr. PingJames HongGŵydd
ZengDan FoglerGŵydd
Commander VachirMichael Clarke DuncanRhinoseros Jafa
O'r chwith i'r dde: Masters Viper, Monkey, Mantis (ar ben Monkey), Shifu, Tigress, a Crane.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm animeiddiedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.