Dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd
Cafodd Dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd ei chyflwyno gan Gytundeb Maastricht a arwyddwyd ym 1992 a'i rhoi ar waith ym 1993. Mae hi'n bodoli ochr yn ochr â dinasyddiaeth Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhoi hawliau ychwanegol i ddinesyddion y gwledydd hyn.
Hawliau penodol dinesyddion yr UE golygu
- yr hawl i gael mynediad i ddogfennau Senedd Ewrop, y Cyngor Ewropeaidd a'r Comisiwn Ewropeaidd.
- yr hawl i beidio â chael triniaeth anffafriol ar sail cenedligrwydd.
- yr hawl i gymorth oddi wrth awdurdodau diplomataidd a chonsylaidd Aelod-Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd mewn gwledydd tu allan i'r UE os nad yw awdurdodau diplomataidd a chonsylaidd Aelod-Wladwriaeth benodol y dinesydd ar gael. Er enghraifft, ni cheir ond un llysgenhadaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn y gwledydd canlynol: Antigwa a Barbiwda (DU), Barbados (DU), Belîs (DU), Gweriniaeth Canolbarth Affrica (Ffrainc), Comoros (Ffrainc), Jibwti (Ffrainc), Gambia (DU), Gaiana (DU), Lesotho (Iwerddon), Liberia (Yr Almaen), Saint Vincent a'r Grenadines (DU), San Marino (Yr Eidal), São Tomé a Príncipe (Portiwgal), Ynysoedd Solomon (DU), Dwyrain Timor (Portiwgal), Fanwatw (Ffrainc).
- yr hawl i ryddid o symudiad a phreswyliad a'r hawl i weithio unrhyw le mewn unrhyw swydd o fewn yr UE, ac eithrio'r swyddi hynny yn y sector cyhoeddus sy'n cynnwys yr ymarfer o rym a roddwyd gan gyfraith gyhoeddus a diogelu buddiannau'r wladwriaeth neu awdurdodau lleol.
- yr hawl i bleidleisio a'r hawl i sefyll mewn etholiadau lleol ac Ewropeaidd mewn unrhyw un o Aelod-Wladwriaethau'r UE.
- yr hawl i ddeisebu Senedd Ewrop a'r hawl i gwyno wrth yr Ombwdsman Ewropeaidd am weinyddiaeth Sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.
- yr hawl i gysylltu â Sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd drwy gyfrwng unrhyw un o ieithoedd swyddogol yr UE a derbyn ymateb yn yr un iaith.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchCarles PuigdemontXxx: State of The UnionBig BoobsMontanaXHamsterWicipedia:CymorthArbennig:RecentChangesYr Ail Ryfel BydDisturbiaFfilm llawn cyffroSpecial:SearchDriggFamily GuyWicipedia:Ynglŷn â WicipediaDreamWorks AnimationWicipedia:Gwadiad CyffredinolEagle EyeWicipedia:Porth y GymunedThe Salton SeaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:CyflwyniadWiki HowRhif Llyfr Safonol RhyngwladolWicipedia:Y CaffiUnol Daleithiau AmericaPanda MawrNguyen Van HungCymraegCymruY Nofel yn GymraegCystadleuaeth Cân EurovisionMET-ArtCategori:Ffilmiau dogfen o Unol Daleithiau AmericaIncwm sylfaenol cyffredinolFfrainc