Custos Rotulorum
Mae Custos Rotulorum (lluosog: Custodes Rotulorum); sef y Lladin am geidwad y rholiau; yn swydd ddinesig hynafol yng Nghymru a Lloegr.
Dyletswydd y Custos Rotulorum yw cadw cofnodion sir ar ran y Goron. Gan fod cyrff statudol, bellach, yn gyfrifol am gadw cofnodion am bethau megis perchnogaeth tir, trethdalwyr, y sawl sydd a'r etholfraint, deiliaid trwyddedau ac ati mae'n swydd seremonïol erbyn hyn.
Yn wreiddiol y Custos Rotulorum oedd y swyddog dinesig uchaf mewn sir, yn bwysicach na'r Raglaw a'r Siryf. Rhwng 1710 a 1836 unwyd y swydd, yn raddol, gyda swydd yr Arglwydd Raglaw. Ers 1836 y mae pob deiliad o'r Arglwyddiaeth Raglaw yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn Custos Rotulorum hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- Encyclopædia Britannica (11eg argraffiad) 1911. Cambridge University Press.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanCarles PuigdemontSiôn Daniel YoungArbennig:SearchWicipedia:Cysylltwch â niBethan Rhys RobertsDeep Throat Part IiYr Ail Ryfel BydArbennig:RecentChangesWicipedia:Gwadiad CyffredinolSwper OlafWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWiki HowWicipedia:CymorthLost Boys: The TribeWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:CategorïauCymraegJess DaviesCymruArwel GruffyddWicipedia:Y CaffiMaurice BéjartAfter Porn Ends 2L.E.T.H.A.L. Ladies: Return to Savage BeachEmmanuelle 4Rape Zombie: Lust of The DeadNawrwHappy GilmoreCyfathrach rywiol800BatmanSex TapeCategori:Diwylliant yn ôl iaith a phwncCannonball Run IiGwenda OwenWicipedia:CyflwyniadIlsa, The Tigress of Siberia