Un o daleithiau (marz) Armenia yw Syunik (Armeneg: Սյունիք, hefyd Siunik, Siwnik, a Syunig) yn ne-ddwyrain eithaf y wlad. Mae'n ffinio ar dalaith Vayots Dzor i'r gogledd, alldir Aserbaijanaidd Nakhchivan i'r gorllewin, Karabakh i'r dwyrain, ac Iran i'r de. Kapan yw'r brifddinas. Mae trefi a dinasoedd eraill yn cynnwys Goris, Sisian, Meghri, Agarak, a Dastakert.

Lleoliad Syunik yn Armenia

Yn hanesyddol, roedd Syunik yn un o 15 talaith Teyrnas Armenia. Dros y canrifoedd, mae wedi cael ei galw yn Syunia, Sisakan, a Zangezur. Mae'r safloedd hanesyddol niferus yn dyst i'w hanes hir, e.e. mynachlog Tatev a safle archaeolegol Zorats Karer.

Mae'n ardal fynyddog sy'n cynnwys Mynyddoedd Zangezur yn y gorllewin. Ceir mwynau yn y mynyddoedd ac mae hanes hir i fwyngloddio yn yr ardal, sy'n parhau hyd heddiw.

Dolen allanol golygu

Taleithiau Armenia
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan


Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.