Ffrwyth sy'n fath o aeronen yw'r eirinen. Mae'n isrywogaeth o'r genws Prunus, a gellir ei gwahaniaethu oddi wrth isrywogaethau eraill (eirin gwlanogceirios, ceirios yr adar, ayb.) yn y modd y mae gan yr eginyn flaguryn blaen a blagur ochr unigol (ddim yn glystyrog), mae ei blodau mewn grwpiau o un i bump ar goesynnau byrion, ac mae gan y ffrwyth rigol yn rhedeg i lawr un ochr a charreg lefn.

Eirin

Gall fod gan eirin aeddfed gaenen wen gwyraidd sy'n gwneud iddynt ymddangos yn lasddu. Mae eirin sychion hefyd yn cael eu galw yn prŵns, er bod y gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wledydd i gyfeirio at fath penodol o eirinen sych sy'n grychlyd ei golwg.[1]

Mae'n bosib mai eirin oedd un o'r ffrwythau cyntaf i gael eu hamaethu gan fodau dynol.[2] Darganfuwyd olion eirin mewn safloedd archeolegol o Oes Newydd y Cerrig ynghyd ag olewydd, grawnwin a ffigys.[3][4]

Blodau coeden eirin

Wrth gynhyrchu eirin yn fasnachol mae'r coed yn cael eu tyfu i faint canolig, tua 5-6 medr o uchder. Mae'r goeden o galedwch canolig.[5] Heb eu tocio, gall y coed gyrradd 12 medr o uchder ac ymestyn i 10 medr o ddiamedr. Maent yn blaguro mewn gwahanol fisoedd o'r flwyddyn mewn gwahanol rannau o'r byd: ym mis Ionawr yn Taiwan, ac ar ddechrau mis Ebrill yng Nghymru, er enghraifft.[6]

Mae'r ffrwythau o faint canolig, rhwng 2 a 7 centimedr o ddiamedr, yn gronellog i hirgrwn. Mae'r cig yn gadarn a llawn sudd, y croen yn llyfn, gydag arwyneb cwyraidd sy'n glynnu i'r cig. Aeronen yw'r eirinen, sy'n golygu bod ei ffrwyth yn amgylchynu hedyn caled unigol.

Yn 2016, cynhyrchwyd 12.1 miliwn tunnell o eirin yn fyd-eang, gyda Tsieina yn cynhyrchu 55% o'r cyfanswm. Y prif gynhyrchwyr eraill oedd Rwmania, Serbia, a'r Unol Daleithiau.

Mae eirin amrwd yn 87% dwr, 11% carbohydrad, 1% protein, a llai na 1% o fraster. Mae tua 100g o eirin yn cynnwys 46 Calori ac yn ffynhonnell gymhedrol o FItamin C (12% o'r faint sy'n cael ei argymell yn ddyddiol), heb unrhyw faint sylweddol o faetholion eraill.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Prune". Oxford Dictionaries, Oxford University Press. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-25. Cyrchwyd 1 March 2018.
  2. Jules Janick, gol. (1998). Horticultural Reviews (Volume 23). Wiley. ISBN 978-0471254454.
  3. Jules Janick (2005). "The origins of fruits, fruit growing and fruit breeding" (PDF). Purdue University. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Spangenberg (January 2006). "Chemical analyses of organic residues in archaeological pottery from Arbon Bleiche". Journal of Archaeological Science 33 (1): 1–13. doi:10.1016/j.jas.2005.05.013.
  5. "Plum, prune, European type". Purdue University. 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-12. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Prunus domestica Plum, European plum PFAF Plant Database". pfaf.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-22. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)